From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Marta Magdalena Abakanowicz-Kosmowska, (20 Mehefin 1930 – 20 Ebrill 2017) yn arlunydd o wlad Pwyl.
Magdalena Abakanowicz | |
---|---|
Ffugenw | Abakanovitchi, Magudarēna |
Ganwyd | 20 Mehefin 1930 Falenty |
Bu farw | 20 Ebrill 2017 Warsaw |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd, artist tecstiliau, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, academydd, cynllunydd, drafftsmon, arlunydd, artist sy'n perfformio, arlunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Manus Ultimus, Birds of Knowledge of Good and Evil, Puellae, Nierozpoznani |
Arddull | celf ffigurol |
Mudiad | celf gyfoes |
Gwobr/au | Officier des Arts et des Lettres, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Gwobr Herder, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Pour le Mérite, Gwobr Croes Arian am Deilyngdod, Gwlad Pwyl, Croes Aur am Deilyngdod, Commandeur des Arts et des Lettres, Marchog Urdd Polonia Restituta, Marchog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal |
Gwefan | http://www.abakanowicz.art.pl/ |
Chwaraeon |
Ganed yn Falenty, ger Warsaw. Roedd ei theulu yn fonheddig ond torrwyd ei magwraeth freintiedig yn fyr gan ymosodiad y Natsïaid ar Wlad Pwyl a'i "rhyddhad" gan yr Undeb Sofietaidd[1].
Derbyniodd ei addysg yn Academi'r Gelfyddyd Gain, Warsaw (1950-55) yn ystod y cyfnod gormesol o Realistiaeth Sosialaidd. Roedd Realistiaeth Sosialaidd yn set o reolau celfyddydol a grëwyd gan Joseff Stalin yn y 1930au, lle bu raid i gelfyddyd bod yn 'genedlaethol ei ffurf' a 'sosialaidd ei chynnwys'. Roedd dulliau celf eraill a oedd yn cael eu hymarfer yn y Gorllewin ar y pryd, megis Moderniaeth, wedi'u gwahardd. Er mwyn ceisio osgoi sensoriaeth realaeth sosialaidd rhoddodd y gorau i arddulliau darluniadol mwy confensiynol gan droi at wehyddu.
Ym 1956 priododd Jan Kosmowski.
Yn y 1960au daeth i fri rhyngwladol gyda'i gosodiadau ffibr haniaethol anferth o'r enw ‘Abakans‘. Yn niweddarach rhoddodd gorau i wehyddu gan droi at greu grwpiau ffigurol cyntefig ac aflonyddus allan o sachliain bwrlap. Ar ddiwedd y 1980au dechrau'r 1990au, dechreuodd Abakanowicz ddefnyddio metelau, fel efydd, ar gyfer ei cherfluniau, yn ogystal â phren, carreg a chlai.
Bu'n athro yn Academi Celfyddydau Cain yn Poznań, Gwlad Pwyl o 1965 i 1990 ac yn athro ymweld ym Mhrifysgol California, Los Angeles ym 1984.
Bu farw yn Warsaw wedi cystudd hir yn 86 mlwydd oed.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.