From Wikipedia, the free encyclopedia
Bedyddiwyd ffosiliau AL 288-1 o ysgerbwd a ganfuwyd yn Nhriongl Afar, Ethiopia yn 1974 yn Lucy.[1][2][3] Mae'r sgerbwd yn nodedig oherwydd y nifer fawr o esgyrn, sy'n caniatáu i anthropolegwyr eu dehongli a'u dyddio'n eitha manwl yn hominid sy'n perthyn i'r rhywogaeth Australopithecus afarensis. Ni wyddus sut y bu farw, ond mae'r dystiolaeth yn dangos yn eitha clir mai oedolyn ifanc ydoedd.
Rhif catalog | AL 288-1 |
---|---|
Enw cyffredin | Lucy |
Rhywogaeth | Australopithecus afarensis |
Oed | 3.2 miliwn o fl. CP |
Man canfod | Ethiopia |
Date discovered | Tachwedd 24, 1974 |
Darganfyddwyd gan | Donald Johanson Maurice Taieb Yves Coppens Tom Gray |
Credir fod yr esgyrn yn dyddio i tua 3.2 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Dengys esgyrn ei choesau'n glir ei bod yn cerdded ar ddwy goes, ond mae'r benglog yn ymdebygu fwy i deulu'r epaod. Mae hyn yn brawf fod cerdded ar ddwy goes wedi rhagflaenu datblygiad yr ymennydd.[4][5]
Fe'i canfuwyd gan Donald Johanson a'i gydweithwyr a fedyddiodd y sgerbwd yn 'Lucy' gan fod yr archaeolegwyr ar y pryd yn gwrando'n ddi-baid ar gân o'r un enw gan y Beatles, sef Lucy in the Sky with Diamonds.[6][7][8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.