Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Tryweryn. Saif gerllaw'r briffordd A4212 rhwng y Bala a Thrawsfynydd. Mae gan y llyn arwynebedd o 20 acer, a saif 1,267 o droedfeddi uwch lefel y môr. Tardda Afon Tryweryn o'r llyn ac mae'n llifo ymlaen tua'r gogledd-ddwyrain i Lyn Celyn.
Pan oedd George Borrow yn y cyffiniau ym 1854, dywedwyd wrtho fod penhwyad yn y llyn, rai ohonynt hyd at 50 pwys. Ceir brithyll yno heddiw, ond nid Penhwyad.
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.