llyn yn Eryri, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Myngul (neu Mwyngil). Fe'i gelwir weithiau yn Llyn Tal-y-llyn ar sail enw'r plwyf a'r anheddiad sydd nesaf at y llyn (er bod y rheini, wrth gwrs, wedi eu henwi ar ôl y llyn yntau). Mae'n debyg fod Myngul yn tarddu o mŵn ('gwddf') a cul.[1]
Lleolir y llyn wrth droed llethrau deheuol Cadair Idris ym Meirionnydd ac mae Afon Dysynni yn llifo trwy'r llyn. Roedd yn rhan o gwmwd Ystumanner yn yr Oesoedd Canol. Mae'r ffordd B4405 yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, heb fod ymhell o'i chyffordd gyda'r briffordd A487; gellir gweld y llyn o'r A487. Ar lan ogleddol y llyn, mae llwybr cyhoeddus ac hen reithordy (gwesty'n awr).
Mae pentref bychan Tal-y-llyn ar ochr dde-orllewinol y llyn wedi rhoi ei enw i'r plwyf ac i Reilffordd Talyllyn, er mai dim ond i Abergynolwyn y mae'r rheilffordd yn cyrraedd. Ceir pysgota da am frithyll yn y llyn.
Mae Dyddiadur C.E.M. Edwards, Dolserau, Dolgellau yn cyflwyno arferion pysgota un o fân foneddigion Meirionedd ynghanol Oes Fictoria rhwng 1871 a 1883. Ar 24 o ymweliadau ym mis Awst (y mis y bu’n pysgota amlaf) fe ddaliodd 208 o frithyll (8.7 brithyll i bob ymweliad).
Pysgodyn oedd yn nodedig am ei absenoldeb yn y llyn yn nyddlyfrau helaeth Edwards oedd y sewin neu frithyll môr. Bu’n pysgota’n helaeth ac yn llwyddiannus am sewin yn afonydd ei ardal ond unwaith yn unig y daliodd sewin yn Llyn Mwyngil (yr hwn a alwodd yn ddieithriad yn “Talyllyn”.
Roedd Munro Edwards yn bysgotwr profiadol ac yn dal sewinod yn rheolaidd yn afonydd ardal Dolgellau o’r 1860au ymlaen. Diddorol felly yw’r sylw yma ganddo o ddal sewin am y tro cyntaf yn Llyn Mwyngil yn 1882 (ac erioed wedyn gyda llaw)[3]
Mae hynny’n rhyfedd gan i bysgotwyr ganrif yn ddiweddarach[4] gofnodi dal sewin yn y llyn yn aml iawn.[5] (Gweler sampl o’r Cofnodion yma ) ar wefan Llên Natur.
Bu Talyllyn yn gyrchfan i garwyr natur erioed. Dyma gofnod gan yr adarydd EHT Bible o Aberdyfi:
Un o'r ychydig adeiladau, ar wahân i'r gwesty, yng nghalon y pentref yw Eglwys y Santes Fair, sy'n dyddio i ganrif 12, gydag olion cynharach. Mae'r eglwys wedi'i chynllunio'n debyg iawn i eglwys gyfagos arall, sef Eglwys Sant Mihangel a leolir yng nghanol pentref bychan Llanfihangel-y-pennant. Oherwydd ei nodweddion hynafol, fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 (rhif cofrestriad 4762) yn Gradd II*.[8] Mae'n bosib bod rhai o'r waliau wedi'u codi yng nghanrif 6 neu 7.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.