From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgrifennwyd Llawysgrif Juvencus yn wreiddiol gan fynach o'r enw Núadu, ac ychwanegwyd ato gan 13 o gopïwr yn 9g OC; Cyflawnwyd y gwaith hwn yn ne-ddwyrain Cymru ac fe'i sgwennwyd yn bennaf mewn Hen Gymraeg a Lladin yn y 9g. Lladin yw prif iaith y llawysgrif, ond ceir glosau Hen Gymraeg a Hen Wyddeleg sydd o bwys mawr i ieithyddion Celtaidd. Mae'n fwyaf adnabyddus yng Nghymru am Englynion y Juvencus, a fernir gan rai yr enghraifft gynharaf o farddoniaeth Gymraeg sydd ar glawr. Copi dydw a waned yn y 9g a'r 10g o waith bardd o'r enw Juvencus o'r 4g sy'n aralleirio yr Efengylau mewn chwebannau, yn null Virgil.
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 9 g |
Lleoliad yr archif | Prifysgol Caergrawnt |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt (fel Llawysgrif Ff. 4.42). Mae'n cael ei hadnabod fel 'Llawysgrif Juvencus' am ei bod yn cynnwys copi o fersiwn mydryddol Lladin o'r Efengylau Cristnogol a gyfnasoddwyd gan y bardd Juvencus (Gaius Vettius Aquilinus Juvencus, bl. 4g OC). Credir mai Gwyddel o'r enw Nuadu oedd y prif gopïydd, ac mae'n bosibl mai mewn canolfan Gymreig gyda chysylltiad gydag Iwerddon y bu'n gweithio.[1]
Mae'n llawysgrif gymhleth sy'n cynnwys deunydd amrywiol ac ysgrifen sawl copïwr arall. Mae glosau Cymraeg a Gwyddeleg - i esbonio'r geiriau a thermau Lladin - yn britho'r tudalennau. Mae'r glosau Cymraeg yn waith mwy nag un llaw hefyd, sy'n awgrymu iddynt gael eu hychwanegu dros gyfnod o amser, o'r 9g hyd y 10fed, efallai. Ychwanegwyd testun Englynion y Juvencus yn 9g, yn ôl pob tebyg, ond mae nodweddion iaith yr englynion yn awgrymu iddynt gael eu cyfansoddi rhai canrifoedd yn gynharach.
Yn ddiweddarach yn ei hanes aeth y llawysgrif o Gymru i Loegr, lle daeth yn rhan o gasgliad Holdsworth ym Mhrifysgol Caergrawnt yn yr 17g.
Yn eithriadol, gwyddom mai dyn o'r enw Núadu a sgwennodd y gwaith gwreiddiol tua 850, gydag 13 o ysgrifwyr yn ehangu ar ei waith. Mae'n sgwennu Cymraeg gydag arddull Wyddelig, a Gwyddeleg yw ei enw. Credir, felly, mai Gwyddel ydoedd wedi dysgu Cymraeg a oedd yn gweithio yng Nghymru. Mae'n arwyddo'i waith gyda'r geiriau "Araut dinuadu", 'Gweddi dros Núadu'. Dyddiwyd y gwaith mewn dwy ffordd wahanol: palaeograffyddol a chod y testun. Mae awduraeth y gwaith, felly'n atgyfnerthu'r bartneriaeth agos rhwng Iwerddon a Chymru yn y 9g a'r 10g.
Ceir cod cyfrin mewn un rhan, ac o ddadasnoddi'r cod gwelir mai offeiriad o'r enw Cymelliauc (o bosibl, o Frynbuga) a sgwennodd y rhan honno. Gwyddus fod offeiriad o'r enw yma'n byw ym Mrynbuga ac i ernes o £40 gael ei dalu amdano i'r llychlynwyr yn 914.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.