Tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Llansawel[1] (Saesneg: Briton Ferry).[2] Saif i'r de o dref Castell-nedd.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Llansawel
Thumb
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,878 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iOuagadougou Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.64°N 3.83°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001022 Edit this on Wikidata
Cod OSSS735945 Edit this on Wikidata
Cod postSA11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDavid Rees (Llafur)
AS/au y DUCarolyn Harris (Llafur)
Thumb
Cau
Am y pentref a chymuned o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llansawel, Sir Gaerfyrddin.

Enwau ysgolion Llansawel yw Ynysmaerdy, Brynhyfryd a Llansawel ger Eglwys y Santes Mair. Yng ngorllewin Llansawel mae pentre Bedd y Cawr sydd wedi adeiladu ar farian terfynol Cwm Nedd ac yn y dwyrain mae ardal Ynysmaerdy. Yr enw Saesneg ar y dref yw Briton Ferry. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhan gyntaf yr enw yn gytras â'r elfen 'Bryddan' yn yr enw Brynbryddan, sydd dros y bryn ym mhentref Cwmafan (felly: 'Rhyd Bryddan' efallai).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]

Am ddegawadau Llansawel oedd cartref Ysbyty Gyffredinol Castell Nedd a oedd yn gwasanaethu yr ardaloedd o amgylch Port Talbot a Chastell-nedd ond nawr mae ysbyty newydd Gwaun Baglan wedi cymryd ei lle.

Thumb
Eglwys y Santes Fair, Llansawel


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansawel (pob oed) (5,911)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansawel) (517)
 
9%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansawel) (5199)
 
88%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llansawel) (1,189)
 
45.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.