cymuned yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli Wledig. Ymestynna'r gymuned tua'r gogledd-orllewin a'r gogledd ddwyran o dref Llanelli, ac mae'n cynnwys maesdrefi Felinfoel, Dafen, Ffwrnes, Llwynhendy, Pwll, Cwmcarnhywel, Bynea a Dyffryn y Swistir, yn ogystal â phentrefi Pont-iets, Pont Henri a Pump-heol.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 22,800, 23,154 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,211.56 ha |
Cyfesurynnau | 51.68°N 4.16°W |
Cod SYG | W04000988 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Gwledig Llanelli |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Mae'r gymuned yn cynnwys cronfeydd dŵr Cwm Lliedi a Lliedi Uchaf, sy'n daparu dŵr i Lanelli, a saif Canolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru, Penclacwydd o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 21,043, gyda 54.45% yn medru Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanelli Wledig (pob oed) (22,800) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelli Wledig) (7,084) | 32.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelli Wledig) (19184) | 84.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanelli Wledig) (3,866) | 40.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.