From Wikipedia, the free encyclopedia
Sioe gerdd roc comedi arswyd yw Little Shop of Horrors gyda cherddoriaeth gan Alan Menken a geiriau a llyfr gan Howard Ashman. Mae'r stori yn dilyn gweithiwr siop flodau sy'n magu planhigyn sy'n bwyta gwaed a chnawd dynol. Mae'r sioe gerdd wedi'i fras seilio ar y ffilm gomedi du 1960 The Little Shop of Horrors. Mae'r gerddoriaeth mewn arddull roc a rôl y 1960au cynnar, dŵ-wop a Motown cynnar. Mae'n cynnwys sawl cân enwog, gan gynnwys "Skid Row (Downtown)", "Somewhere That's Green", a "Suddenly, Seymour".
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Cymeriadau | Seymour Krelborn, Audrey, Mr. Mushnik, Audrey II, Orin Scrivello, Chiffon, Crystal, Ronette |
Yn cynnwys | Prologue (Little Shop Of Horrors), Skid Row (Downtown), Da-Doo, Grow For Me, Ya Never Know, Somewhere That's Green, Closed For Renovation, Dentist, Mushnik & Son, Feed Me (Git It), Now (It's Just The Gas), Call Back In The Morning, Suddenly Seymour, Suppertime, The Meek Shall Inherit, Sominex / Suppertime II, Suddenly Seymour Reprise, Finale (Don't Feed The Plants) |
Libretydd | Howard Ashman |
Dyddiad y perff. 1af | 6 Mai 1982 |
Cyfansoddwr | Alan Menken |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perfformiodd y sioe gerdd gyntaf "off-off-Broadway" ym 1982 cyn symud i Theatr Orpheum off-Broadway, lle rhedodd am bum mlynedd. Yn ddiweddarach roedd nifer o gynyrchiadau yn yr UDA a thramor, ac yna chynhyrchiad Broadway. Oherwydd ei gast bach, mae wedi dod yn boblogaidd gyda theatr gymunedol, ysgolion a grwpiau amatur eraill.[1] Cafodd y sioe gerdd hefyd ei wneud yn ffilm yn 1986 o'r un enw, wedi'i chyfarwyddo gan Frank Oz.
Mae llais oddi ar y llwyfan yn dwyn i gof adeg pan ddaeth yr hil ddynol yn sydyn i fygythiad i'w fodolaeth. Mae triawd o fenywod o'r 1960au o'r enw Crystal, Ronette, a Chiffon yn gosod yr olygfa ("Little Shop of Horrors") ac yn rhoi sylwadau ar beth sy'n digwydd trwy gydol y sioe. Dyn ifanc, tlawd yw Seymour Krelborn, sy'n byw yn ardal dlotaf y ddinas. Mae Audrey yn ferch wallt melyn, tlws, gyda synnwyr ffasiwn ddi-chwaeth. Maen nhw'n galaru eu sefyllfaoedd bywyd a'r malltod trefol yn eu bro ("Skid Row (Downtown)"). Maent yn gyd-weithwyr yn Mushnik's Skid Row Florists, siop flodau sydd wedi dirywio sydd wedi gweithredu gan ei pherchennog cranclyd Mr Mushnik. Yn ddiweddar, mae Seymour wedi cael planhigyn dirgel newydd sy'n edrych fel hedfagl. Tra roedd yn pori'r ardal gwerthu blodau, roedd eclips haul sydyn, a phan ddychwelodd y golau, ymddangosodd y planhigyn rhyfedd ("Da-Doo"). Mae Seymour yn enwi'r planhigyn Audrey II er anrhydedd i Audrey gan ei fod yn gyfrinachol mewn cariad gyda hi.
Nid yw'r planhigyn yn tyfu mawr yn ei amgylchedd newydd ac mae'n ymddangos ei fod yn marw. Mae Seymour yn cwestiynu pam nad yw'n tyfu er iddo gymryd gofal mor dda ohono. Mae'n pigo'i fys ar ddraenen rosyn, sy'n tynnu gwaed, ac mae ceg Audrey II ar agor. Mae Seymour yn sylweddoli bod Audrey II yn gofyn am waed i oroesi ac yn caniatáu i'r planhigyn sugno o'i fys ("Grow For Me"). Wrth i Audrey II dyfu, mae'n dod yn atyniad i'r siop ac yn dechrau cynhyrchu busnes da i Mushnik. Fel gofalwr y planhigyn, mae Seymour yn sydyn yn cael ei ystyried yn arwr ("Ya Never Know"). Mae Audrey yn gyfrinachol yn hiraethu am adael ei chariad ymosodol, a'i breuddwyd yw arwain bywyd maestrefol delfrydol gyda Seymour, ynghyd â chartref tract, ciniawau wedi'u rhewi, a phlastig ar y dodrefn ("Somewhere That's Green").
Yn y cyfamser, mae'r gweithwyr yn siop flodau Mushnik yn adnewyddu'r siop oherwydd poblogrwydd yr Audrey II, sy'n tyfu'n gyflym, a'r refeniw y mae'n dod ag ef i mewn ("Closed for Renovation"). Orin Scrivello, deintydd sadistaidd, yw cariad ymosodol Audrey. Mae Orin yn gyrru beic modur, yn gwisgo lledr, ac yn mwynhau dod â phoen i bobl eraill ("Dentist!"). Mae Orin yn annog Seymour i fynd â'r planhigyn a gadael Skid Row. Ynn sylweddoli bod llwyddiant sydyn ei siop yn gwbl ddibynnol ar y planhigyn (ac felly ar Seymour), mae Mushnik yn manteisio ar ddiniweidrwydd Seymour trwy gynnig ei fabwysiadu a'i wneud yn bartner llawn yn y busnes. Gan ei fod erioed wedi eisiau teulu, mae Seymour yn derbyn, er bod Mushnik trwy'r amser yn gweiddi arno a'i drin yn wael ("Mushnik and Son"). Fodd bynnag, mae Seymour yn cael anhawster darparu digon o waed i gadw Audrey II yn iach. Pan fydd Seymour yn stopio bwydo'r planhigyn, mae Audrey II yn datgelu ei fod yn gallu siarad. Mae'n mynnu gwaed ac yn addo, os caiff ei fwydo, y bydd yn sicrhau bod holl freuddwydion Seymour yn dod yn wir. Mae Seymour yn gwrthod i ddechrau, ond mae wedyn yn dyst i Orin yn cam-drin Audrey. Mae'r planhigyn yn cyflwyno hyn fel cyfiawnhad dros ladd Orin. Heb sylweddoli ei fod yn cael ei ddylanwadu eto, mae Seymour yn cytuno ("Feed Me (Git It)").
Mae Seymour yn sefydlu apwyntiad gyda'r nos gydag Orin, yn bwriadu ei ladd. Fodd bynnag, oherwydd nerfau mae Seymour yn penderfynu peidio â chyflawni'r drosedd. Yn anffodus i Orin, sy'n benfeddw ar ocsid nitrus, mae'r ddyfais nwy yn mynd yn sownd yn y safle "ymlaen", ac mae'n mygu wrth ofyn i Seymour ei achub. Ni all Seymour saethu Orin ond mae'n gadael iddo farw o'r mygu ("Now (It's Just The Gas)"). Mae Seymour yn bwydo corff Orin i Audrey II sydd bellach yn enfawr, ac mae'r planhigyn yn ei fwyta yn gyffroes ("Act I Finale").
Mae'r siop flodau yn llawer prysurach, ac mae Seymour ac Audrey yn cael trafferth cadw i fyny â'r archebion ("Call Back in the Morning"). Mae Audrey yn cyfaddef i Seymour ei bod yn teimlo’n euog am ddiflaniad Orin, oherwydd yn gyfrinachol roedd hi’n dymuno hynny. Mae'r ddau yn cyfaddef eu teimladau tuag at ei gilydd, ac mae Seymour yn addo y bydd yn amddiffyn ac yn gofalu am Audrey o hyn ymlaen ("Suddenly, Seymour"). Mae'r ddau yn bwriadu gadael gyda'i gilydd a dechrau bywyd newydd, er bod Seymour ar gam yn priodoli teimladau Audrey i'w enwogrwydd newydd, heb sylweddoli ei bod hi'n ei garu hyd yn oed cyn iddo ddod o hyd i'r planhigyn.
Cyn y gallant fynd, mae Mushnik yn gofyn Seymour am farwolaeth Orin. Mae Mushnik wedi sylweddoli beth ddigwyddodd: y wisg y deintydd gwaedlyd, y diferion o waed ar y llawr, ac mae wedi gweld Seymour ac Audrey yn cusanu. Mae Seymour yn gwadu lladd Orin, ond mae Mushnik eisiau iddo roi datganiad i’r heddlu. Mae Audrey II yn dweud wrth Seymour bod yn rhaid iddo gael gwared â Mushnik neu y bydd yn colli popeth, gan gynnwys Audrey ("Suppertime"). Mae Seymour yn dweud wrth Mushnik ei bod wedi rhoi derbynebau'r dydd y tu mewn i Audrey II i'w cadw'n ddiogel. Mae Mushnik yn dringo y tu mewn i geg agored y planhigyn i chwilio am yr arian, ond yn sylweddoli'r twyll yn rhy hwyr, ac mae'n sgrechian wrth iddo gael ei fwyta. Bellach mae Seymour yn rhedeg y siop flodau, ac mae gohebwyr, gwerthwyr, cyfreithwyr ac asiantau yn mynd ato, gan addo enwogrwydd a ffortiwn iddo. Er iddo gael ei demtio, mae Seymour yn sylweddoli mai dim ond mater o amser yw hi cyn y bydd Audrey II yn lladd eto, ac ef fydd yn gyfrifol yn foesol. Mae'n ystyried dinistrio'r planhigyn ond, oherwydd ei fod yn credu taw ei enwogrwydd yw'r unig beth sy'n ennill cariad Audrey, nid yw'n gallu gwneud hynny ("The Meek Shall Inherit").
Wrth i Seymour paratoi ar gyfer taith, mae Audrey II unwaith eto yn gofyn am waed. Mae Seymour yn bygwth ei ladd yn union wrth i Audrey gerdded i mewn i ofyn pryd y bydd Mushnik yn dychwelyd o ymweld â'i "chwaer sâl". Mae Seymour yn dysgu y byddai Audrey yn dal i'w garu heb yr enwogrwydd ac yn penderfynu bod yn rhaid i Audrey II farw ar ôl y cyfweliad nesaf a drefnwyd yn y siop. Mae Audrey wedi drysu ac yn dychryn gan beth mae Seymour yn dweud, ond mae hi'n rhedeg adref yn ôl i Seymour orchymyn iddi ei wneud. Y noson honno mae Audrey methu cysgu, ac yn mynd i'r siop flodau i siarad â Seymour, ond dydy e ddim yno, ac mae Audrey II yn ei gofyn hi am ddŵr. Heb synhwyro'r perygl, mae hi'n agosáu ato, ac mae'r planhigyn yn ei ymosod arni ("Sominex / Suppertime II"). Mae Seymour yn cyrraedd ac yn ymosod ar y planhigyn mewn ymgais i achub Audrey. Mae'n ei thynnu allan o geg y planhigyn, ond mae Audrey wedi'i anafu'n farwol. Ei dymuniad olaf cyn marw yw i Seymour ei bwydo i'r planhigyn ar ôl iddi farw fel y gallant fod gyda'i gilydd bob amser. Mae hi'n marw yn ei freichiau, ac mae'n cyflawni ei gorchymyn ("Somewhere That's Green" (reprise)). Mae Seymour yn cwympo i gysgu wrth i Audrey II dyfu blagur blodau coch bach.
Y diwrnod wedyn, mae Patrick Martin o'r World Botanical Enterprises yn gofyn i Seymour a all ei gwmni gwerthu toriadau dail o Audrey II mewn siopau blodau ledled America. Mae Seymour yn sylweddoli cynllun drwg y planhigyn: concwest y byd. Mae'n ceisio saethu, torri a gwenwyno'r planhigyn, ond mae wedi tyfu'n rhy gryf i'w ladd. Yn olaf mae Seymour yn rhedeg i mewn i geg agored y planhigyn gyda machete yn bwriadu ei ladd o'r tu mewn, ond mae'n cael ei fwyta. Mae Patrick, Crystal, Ronette, a Chiffon yn chwilio am Seymour. Heb ddod o hyd iddo, mae Patrick yn dweud wrth y merched i fynd â'r toriadau.
Mae Crystal, Ronette, a Chiffon yn nodi, yn dilyn y digwyddiadau hyn, bod planhigion eraill wedi ymddangos ledled America, yn twyllo pobl ddiniwed i fwydo gwaed iddynt yn gyfnewid am enwogrwydd a ffortiwn. Allan o'r niwl, mae Audrey II, mwy nag erioed, yn ymddangos gyda blodau newydd agored yn datgelu wynebau Seymour, Audrey, Mushnik ac Orin, sy'n erfyn peidio â bwydo'r planhigion ("Finale Ultimo: Don't Feed the Plants"). Mae Audrey II yn llithro tuag at y gynulleidfa yn fygythiol, ac mae rhyw effaith o'r gynulleidfa yn cael ei fwyta gan y planhigyn.
|
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.