anthropolegydd a chymdeithasegydd Affricanaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ieithydd ac anthropolegydd Affricanaidd yw'r Athro Kwesi Kwaa Prah. Mae'n sefydlydd ac yn gyfarwyddwr ar Ganolfan Uwch-astudiaethau Cymdeithas Affrica (Centre for Advanced Studies of African Society, CASAS Archifwyd 2014-08-02 yn y Peiriant Wayback) yn Cape Town, De Affrica. Ganed ef yn Ghana ac mae wedi gweithio mewn sawl prifysgol yn Affrica, Ewrop ac Asia gan ymchwilio a dysgu Cymdeithaseg ac Anthropleg.
Kwesi Kwaa Prah | |
---|---|
Ganwyd | 1942 Kumasi |
Dinasyddiaeth | Ghana |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | anthropolegydd |
Trwy ei waith gyda CASAS ceisia ddatblygu cymdeithas Affrica drwy ymchwil diwylliannol, cymdeithasol, hanesyddol ac economaidd. Mae CASAS yn gweithredu Prosiect Harmoneiddio a Safon Ieithoedd Affrica a gwella cyfraddau llythrennedd yn y cyfandir. Gan greu safonnau iaith newydd ar gyfer teuluoedd o dafodieithoedd cyd-ddealladwy, traws-ddealladwy, gobeithia Prah oresgyn ffiniau ieithyddol lleol a achosir gan amrywiaith tafodieithoedd Affrica, ond hefyd torri y ffiniau gwleidyddol ac ieithyddol sydd yn gweld parhâd gafael ieithoedd trefedigaethol Ewropeaidd ar y cyfandir.
Nodir prif fyrdwn athroniaeth Prah mewn crynodeb ar wefan prosiect Ashoka Archifwyd 2012-03-03 yn y Peiriant Wayback. Cred Prah fod hyd at 80% o boblogaeth Affrica yn siarad 12 iaith wraidd sydd eu hunain yn cynnwys amrywiaeth o fewn continiwm ieithyddol. Y 12 iaith wraidd yma yw: Nguni, Sotho, Tswana, Swahili, Amhara, Dwyrain Inter-Lacusterine, Gorllewin Inter-Lacusterine (Kitara), Haura, Yoruba, Igbo, Bambara, FulFul, Oromo, a Berber. Mae nifer fawr o ieithoedd eraill, sydd hefyd yn cynnwys amrywiaethau o dafodiaith ar gontiniwm ieithyddol, ond mae'r 12 'iaith wraidd' yma yn cynnwys rhan helaethaf o boblogaeth Affrica. Gellid ychwanegu Arabeg at y 12 iaith wraidd uchod, yn wir, mae Arabeg yn enghraifft dda o iaith sy'n meddu ar un safon ysgrifenig er fod amrywiaeth tafodieithol fawr o fewn eu siaradwyr.
Yn ôl Prah rhannwyd a lleffetheiriwyd ar ddatblygiad creu ieithoedd safonnol unedig eang yn Affrica gan sawl proses. Yn eu mysg oedd rhannu tiriogaeth ieithyddol cynhenid Affrica gan wladychwyr Ewropeaidd yn y G19. Proses arall oedd arferiad cenhadon o wahanol wledydd ac enwadau Cristnogol i ysgrifennu a safonni tafodieithoedd o fewn tiriogaeth yr eglwys Ewropeaidd honno gan ddyrchafu sawl tafodiaith yn iaith yn hytrach na'u trin fel continiwm ieithyddol gyda'r tafodiaethau cyfagos. Noda Prah fod hyn wedi gwanhau llythrennedd a datblygiad economaidd Affrica. Y cyd-destun Ewropeaidd fyddai bod gwladychwyr tramor wedi creu safonnau ieithyddol gwahanol i dafodieithau yr Eidal neu'r Almaen yn hytrach na hyrwyddo un tafodiaeth neu safon (Twscana yn achos yr Eidaleg, Hochdeutsch yn achos yr Almaen) fyddai'n creu undod ieithyddol safonnol.
Noda Prah, er enghraifft, fod Zulu, Xhosa, Swati, Ndebele, Shangaan, Ngoni, Tumbaka, a Ntsenga yn 85% dealladwy i siaradwyr ei gilydd fel iaith lafar ac y gellid eu cwmpasu o fewn un iaith ysgrifenedig safonol, Nguni. Yn ôl Prah, mae cyfansoddiad De Affica yn cydnabod 11 iaith swyddogol ond fod, mewn gwirionedd ond angen am 4 iaith gan clystyru'r tafodieithoedd Nguni a'r tafodieithoedd Sotho fel dwy iaith ysgrifenedig at Saesneg ac Afrikaans.
Mae'r Athro Prah wedi ysgrifennu sawl erthygl ar sefyllfa ieithyddol De Affrica gan gynnwys 'Challenges to the Promotion of Indigenous Languages in South Africa' Archifwyd 2014-10-08 yn y Peiriant Wayback.
Mae CASAS yn cydweithio a sbarduno creu safonnau iaith i'r teuluoedd ieithyddol. Mewn sawl erthygl a chyfweliad, noda Prah amrywiaeth ar ei brif ddadl economaidd, 'No nation makes progress on the basis of a borrowed language' Archifwyd 2014-07-18 yn y Peiriant Wayback (16 Mai 2013) llwyddiant economaidd Ewrop a De Asia yn seiliedig ar y ffaith fod y gwledydd (yn wahanol i Affrica) yn gweithredu drwy eu mamiaith.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.