Mae'r landkreis (bathiad Cymraeg: Dosbarth) yn endid daearyddol-wleidyddol yn yr Almaen sy'n debyg i'r sir Gymreig o ran maint daearyddol a'i gyfrifoldeb gweinyddol. Nid yw'n bodoli, fodd bynnag, yng Ngogledd Rhine-Westphalia nac yn Schleswig-Holstein lle caiff ei adnabod fel kreis. Defnyddir y term 'kreis' hefyd yn answyddogol am bob un o'r 'siroedd' hyn. Nid yw dinasoedd mwya'r Almaen yn rhan o'r endidau hyn, ond maent yn gwneud gwaith tebyg ar ei liwt eu hunain. Gelwir y rhain yn Kreisfreie Stadt (llythrennol: "dosbarth gwledig") neu Stadtkreis ("ddosbarth dinesig").

Thumb
Map o ddosbarthiadau'r Almaen, gyda melyn yn dynodi'r dosbarth dinesig a gwyn yn ddosbarthiadau gwledig.

O ran cyfrifoldebau gweinyddol, mae'r kreis yn gorwedd rhwng Talaith (y Länder) a'r bwrdeisdre llai a elwir yn Gemeinden.

Niferoedd

Rhennir yr Almaen i 402 Dosbarth gweinyddol: 295 dosbarth gwledig[1] (Kreise a Landkreise), a 107 Dosbarth dinesig (Kreisfreie Städte a Stadtkreise).[2]

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.