From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Jarad Anthony Higgins (2 Rhagfyr 1998 – 8 Rhagfyr 2019), a elwid yn broffesiynol yn Juice Wrld (gyda'r arddull Juice WRLD), yn rapiwr Americanaidd, canwr a chyfansoddwr o Chicago, Illinois. Cafodd ei gân "Lucid Dreams" ei chwarae ar blatfform ffrydio cerddoriaeth Spotify dros biliwn o weithiau gan gyrraedd rhif dau ar y Billboard Hot 100 Fe wnaeth "Lucid Dreams", ynghyd â'i sengl boblogaidd gynharach "All Girls Are the Same", ei helpu i sicrhau cytundeb recordio gyda Grade A Productions ac Interscope Records. Daeth ei enw llwyfan o'r rapiwr Tupac Shakur a'i ran yn y ffilm Juice a'i fod yn cynrychioli 'cymryd drosodd y byd'.[1]
Juice Wrld | |
---|---|
Ffugenw | Juice WRLD, JuiceTheKidd |
Ganwyd | Jarad Anthony Higgins 2 Rhagfyr 1998 Chicago |
Bu farw | 8 Rhagfyr 2019 o seizure Oak Lawn, Chicago |
Label recordio | Interscope Records, Grade A Productions, Polydor Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon |
Arddull | hip hop, trap music, emo rap, SoundCloud rap, roc amgen, pop rap, alternative hip hop |
Gwobr/au | Billboard Music Award for Top New Artist |
Gwefan | https://juicewrld999.com/ |
Ganwyd Jarad Anthony Higgins ar 2 Rhagfyr 1998, yn Chicago, Illinois.[2] Fe’i magwyd yn rhan deheuol y dref, gan dreulio ei blentyndod ym Mharc Calumet ac yn ddiweddarach symudodd i Homewood,[3] lle mynychodd Ysgol Uwchradd Homewood-Flossmoor gan raddio yn 2017.[4] Ysgarodd ei rieni pan oedd yn dair oed,[5] gadawodd ei dad, gan adael ei fam i'w fagu fel mam sengl ynghyd ag un brawd hŷn.[6] Roedd mam Higgins yn grefyddol a cheidwadol iawn, a ni adawodd iddo wrando ar gerddoriaeth hip hop. Caniatawyd iddo wrando ar gerddoriaeth roc a phop, a daeth o hyd i hyn ar gemau fideo fel Pro Skater a Guitar Hero gan Tony Hawk, a gyflwynodd ef i artistiaid megis Billy Idol, Blink-182, Black Sabbath, Fall Out Boy, Megadeth a Panic! at the Disco.[1][7]
Dysgodd chwarae'r piano yn bedwar oed, ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei fam, Carmella Wallace, a ddechreuodd dalu am wersi yn ddiweddarach. Yna dysgodd y gitâr a'r drymiau. Chwaraeodd Higgins yr utgorn mewn band ar gyfer dosbarth yn yr ysgol.[8] Yn ei ail flwyddyn yn yr ysgol uwchradd, dechreuodd bostio caneuon i'w SoundCloud a recordiodd ar ei ffôn symudol.[9] Tua'r adeg hon, dechreuodd Higgins gymryd rapio o ddifrif.[10][11]
Rhyddhawyd ei drac cyntaf a gynhyrchwyd gan ei brif gynhyrchydd Nick Mira, "Too Much Cash", yn 2017.[12] Tra'n rhyddhau prosiectau a chaneuon ar SoundCloud, roedd Higgins yn gweithio mewn ffatri ond roedd e'n anfodlon â'r swydd; cafodd ei wahardd o'r swydd o fewn pythefnos.[13] Ar ôl ymuno ag Internet Money, rhyddhaodd Higgins ei EP llawn cyntaf, 9 9 9, ar 15 Mehefin 2017, gyda'r gân "Lucid Dreams" a ddaeth yn boblogaidd a thyfu nifer ei ddilynwyr.[11][14]
Yng nghanol 2017, dechreuodd dderbyn sylw gan artistiaid eraill o Chicago. Arwyddodd gytundeb gyda label, Grade A Productions.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.