From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores, cyfansoddwraig a cherddor o Awstralia oedd Judith Durham AO (ganwyd Judith Mavis Cock; 3 Gorffennaf 1943 – 5 Awst 2022), sy'n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y grŵp boblogaidd Awstralia, The Seekers, yn yr 1960au.[1]
Judith Durham | |
---|---|
Ganwyd | Judith Mavis Cock 3 Gorffennaf 1943 Essendon |
Bu farw | 5 Awst 2022 o afiechyd yr ysgyfaint The Alfred Hospital, Melbourne |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cerddor jazz, pianydd, canwr-gyfansoddwr |
Arddull | canu gwerin, jazz |
Math o lais | soprano |
Gwobr/au | Urdd Anrhydedd Awstralia, Swyddogion Urdd Awstralia, Medal Canmlwyddiant |
Gwefan | http://www.judithdurham.com/ |
Cafodd Judith Cock ei geni yn Essendon, Victoria, yn ferch i William Alexander Cock a'i wraig, Hazel (ganwyd Durham). Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Essendon. Ym 1950 symudodd y teulu i Taroona, un o faestrefi Hobart ym Tasmania, lle mynychodd Judith Ysgol Fahan cyn symud yn ôl i Melbourne. Addysgwyd hi yn ysgol Ruyton i Ferched Kew ac yna yn RMIT.[2]
Enillodd gymhwyster Cydymaith mewn Cerddoriaeth, Awstralia ( AMusA ) mewn piano clasurol yn y Conservatorium Prifysgol Melbourne. Dechreuodd ei gyrfa ganu un noson yn 18 oed. Ym 1963, dechreuodd berfformio mewn clwb gyda Jazz Preachers gan Frank Traynor, gan ddefnyddio enw morwynol ei mam, Durham. Recordiodd hefyd ei EP cyntaf, Judy Durham gyda Jazz Preachers gan Frank Traynor. [3]
Roedd y grwp The Seekers yn cynnwys Durham, Athol Guy, Bruce Woodley a Keith Potger. Yn lle hynny arwyddodd W&G y Seekers am albwm, Introducing the Seekers, ym 1963. Aeth y band i'r Deyrnas Unedig ym 1964. Cadawodd Durham ym 1968.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.