From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o'r Unol Daleithiau yw Joyce Carol Oates (ganwyd 16 Mehefin 1938) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd ac awdur.
Joyce Carol Oates | |
---|---|
Ffugenw | Rosamond Smith, Lauren Kelly |
Ganwyd | 16 Mehefin 1938 Lockport |
Man preswyl | Princeton |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, llenor, sgriptiwr, athro cadeiriol, dyddiadurwr |
Blodeuodd | 1999 |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Black Water, Blonde, The Falls |
Prif ddylanwad | Charlotte Brontë, Henry James, Flannery O'Connor, Howard Phillips Lovecraft, Ernest Hemingway, William Faulkner, D. H. Lawrence, Doris Lessing, Edgar Allan Poe, Charles Dickens, Emily Brontë, Lewis Carroll, James Joyce, Fyodor Dostoievski, Franz Kafka |
Priod | Raymond J. Smith |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr O. Henry, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr Rea am y Stori Fer, Gwobr Bram Stoker am Nofel, Gwobr PEN/Malamud, Clwb Llyfrau Oprah, Gwobr Helmerich, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr Merched Dramor, dyneiddiwr, Fernanda Pivano Award for American Literature, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr fawr yr arwres Madame Figaro am nofel dramor, Prix mondial Cino Del Duca, Gwobr Pushcart, Gwobr Stone am Gyflawniad Llenyddol Gydol Oes, Neuadd Enwogion New Jersey, honorary doctor of Brandeis University, honorary doctor of the Northwestern University, Gwobr Cyflawniad Oes Ivan Sandrof |
Cyhoeddodd Oates ei llyfr cyntaf ym 1962 ac ers hynny mae wedi cyhoeddi dros 40 o nofelau, yn ogystal â nifer o ddramâu a nifer o gyfrolau o straeon byrion, barddoniaeth a gwaith ffeithiol. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei hysgrifennu, gan gynnwys y Wobr Llyfr Genedlaethol, am ei nofel them (1969), dwy Wobr Henry, y Fedal Ddyniaethau Genedlaethol a Gwobr Jerwsalem (2019). Roedd ei nofelau Black Water (1992), What I Lived For (1994), Blonde (2000), a chasgliadau o straeon byrion, The Wheel of Love (1970) a Lovely, Dark, Deep: Stories (2014) i gyd yn rownd derfynol Gwobr Pulitzer.
Cafodd ei geni yn Lockport, Efrog Newydd, ar 16 Mehefin 1938, yr hynaf o dri o blant; hanai'r teulu o Hwngari. Cawsant eu dwyn i fyny ym maestref Millersport, Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Detroit Mercy, Prifysgol Rice, Prifysgol Syracuse a Phrifysgol Wisconsin–Madison.[1][2][3][4][5] Ymhlith y dylanwadau mwyaf arni mae: Franz Kafka, D. H. Lawrence, Thomas Mann, a Flannery O'Connor. Cyhoeddodd Gwasg Vanguard nofel gyntaf Oates, With Shuddering Fall (1964), pan oedd yn 26 oed. Yn 1966, cyhoeddodd "Where Are You Going, Where Have You Been?", sef stori fer wedi'i ganoli ar Bob Dylan a ysgrifennodd ar ôl gwrando ar ei gân "It's All Over Now, Baby Blue".
Mae Oates wedi darlithio ym Mhrifysgol Princeton ers 1978 ac ar hyn o bryd (2019) mae'n Athro Emerita Roger S. Berlind '52 yn y Dyniaethau gan arbenigo mewn ysgrifennu creadigol.[6]
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America, Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd. [7][8][9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.