Gwleidydd o Malawia yw Joyce Hilda Banda (ganwyd Ntila, 12 Ebrill 1950).[1] Roedd hi'n Arlywydd Malawi rhwng 7 Ebrill 2012 a 31 Mai 2014. Daeth Banda yn Arlywydd yn ddilyn marwolaeth sydyn y cyn-Arlywydd Bingu wa Mutharika. Mae hi'n sylfaenydd ac arweinydd Plaid y Bobl, a grëwyd yn 2011.[2]
Joyce Banda | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 1950 Zomba |
Man preswyl | Nairobi |
Dinasyddiaeth | Malawi |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, dyngarwr, ymgyrchydd, diplomydd, cyfreithiwr |
Swydd | Minister of Foreign Affairs, Arlywydd Malawi, Vice President of Malawi |
Plaid Wleidyddol | United Democratic Front, People's Party |
Priod | Richard Banda |
Plant | Akajuwe Banda |
Gwobr/au | gradd er anrhydedd, Gwobr 100 Merch y BBC |
Yn addysgwr ac yn actifydd hawliau menywod ar lawr gwlad, hi oedd y Gweinidog Materion Tramor rhwng 2006 a 2009 ac yn Is-lywydd Malawi rhwng Mai 2009 ac Ebrill 2012.[3] Roedd wedi gwasanaethu mewn rolau amrywiol fel aelod seneddol ac fel Gweinidog Rhyw a Lles Plant cyn iddi ddod yn Arlywydd Gweriniaeth Malawi. Mae hi'n[4] sylfaenydd Sefydliad Joyce Banda, Cymdeithas Genedlaethol y Merched Busnes (NABW), Rhwydwaith Arweinwyr Merched Ifanc a'r Prosiect Newyn.
Cafodd ei geni[5] ym Malemia, pentref yn Ardal Zomba yn Nyasaland (Malawi bellach).[6][7] Roedd ei thad yn gerddor band pres yr heddlu. Nid yw'n berthynas â'r cyn-unben Hastings Banda.[8]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.