diwinydd Seisnig ac anghydffurfiwr cynnar yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig (1320-1385) From Wikipedia, the free encyclopedia
Diwinydd o Loegr a diwygiwr a chyfieithydd cyntaf y Beibl i'r Saesneg oedd John Wycliffe (Lladin: Johannes Wyclif, tua 1328 - 31 Rhagfyr 1384). Ystyrir Wycliffe fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd, a chyfeirir ato fel "Seren Bore'r Diwygiad".
John Wycliffe | |
---|---|
Ganwyd | 1320s Hipswell |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1384 Lutterworth |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, cyfieithydd, athronydd, cyfieithydd y Beibl, ysgrifennwr |
Cyflogwr |
Ganed Wycliffe tua'r flwyddyn 1328 ger Richmond, Swydd Efrog. Roedd yn Athro ym Mhrifysgol Rhydychen. Cyfieithodd Wycliffe y Beibl ym 1382 i'r Saesneg. Ysgrifennodd sylwebaethau yn Lladin ar weithiau Aristoteles. Bu farw yn Lutterworth, Lloegr ym 1384.
Condemniwyd ef fel heretic gan yr Eglwys yng Nghyngor Constance ym 1415. Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar Jan Hus, y diwygiwr crefyddol o'r Weriniaeth Tsiec.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.