Cleriwgr, athro ac awdur o Gymru oedd John Williams (bu farw 4 Medi 1613). Fe'i cofir yn bennaf fel prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen ac fel diwinydd. Roedd yn frodor o Sir Gaerfyrddin.[1]
John Williams | |
---|---|
Ganwyd | Unknown |
Bu farw | 4 Medi 1613 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Swydd | rheithor |
Gyrfa
Ganed John Williams ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin, yn aelod o deulu lleol pur gefnog. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn 1594 graddiodd yn BD a derbyniodd reithoraeth Llandrinio yn Sir Drefaldwyn. Yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn "Margaret Professor" mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen; daliodd y swydd hyd ei farwolaeth. Fe'i apwyntwyd yn brif athro ar 17 Mai 1602[2] ac yn is-ganghellor yn 1604. Bu'n ddeon ym Mangor hefyd, o 1605 hyd ei farw yn 1613.[3][1]
YsgrifeNnodd lyfr diwinyddol yn yr iaith Ladin. Fe'i cofir hefyd fel cyhoeddwr un o lyfrau'r athronydd Seisnig Roger Bacon, sef y De retardandis senectutis accidentibus et sensibus confirmandis (1590).[1]
Llyfryddiaeth
- De Christi Justitia et in regno spirituali ecclesiae pastorum officio (1597)
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.