Golygydd, cyhoeddwr, gweinidog Methodistaidd a gramadegydd Cymreig oedd John Parry (7 Mai 1775 – 28 Ebrill 1846). Mae'n adnabyddus yn bennaf heddiw fel awdur Rhodd Mam, y catecism i blant a ddaeth yn ddarllen cyfarwydd i nifer o blant Cymru'r 19eg ganrif.
John Parry, Caerlleon | |
---|---|
John Parry (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) | |
Ganwyd | 17 Mai 1775 Llandwrog |
Bu farw | 28 Ebrill 1846 |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
- Am bobl eraill o'r un enw gweler John Parry.
Bywgraffiad
Roedd Parry yn frodor o blwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), ond treuliodd dau draean o'i oes yn ninas Caer (Caerlleon) lle sefydlodd argraffwasg.
Yn 1818 dechreuodd gyhoeddi Goleuad Gwynedd (Goleuad Cymru yn nes ymlaen). Golygodd Y Drysorfa o 1831 ymlaen.
Ysgrifennodd Ramadeg Cymraeg a Gramadeg Hebraeg a chyfieithodd rhai o weithiau diwinyddol John Brown i'r Gymraeg.
Fe'i cofir yn bennaf fel awdur Rhodd Mam, llyfr catecism neu holwyddoreg a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1811. Er ei fod wedi ei fwriadu ar gyfer plant, daeth yn brif gyfrwng hyfforddiant yn egwyddorion yr Eglwys Fethodistaidd a gwybodaeth Beiblaidd i genedlaethau o oedolion hefyd trwy waith yr Ysgol Sul. Ceiniog yn unig oedd pris y gyfrol fechan.
Cyfeiriadau
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.