bargyfreithiwr a barnwr llys sirol (1800-1876) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd John Johnes (6 Ebrill 1800 – 19 Awst 1876) yn fargyfreithiwr barnwr a thirfeddiannwr Cymreig.[1]
John Johnes | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1800 Stad Dolaucothi |
Bu farw | 19 Awst 1876 Stad Dolaucothi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, barnwr |
Priod | Elizabeth Edwardes |
Plant | Elizabeth Hills-Johnes |
Ganwyd Johnes ym Mhlas Dolaucothi, yn blentyn i'r Cyrnol John Johnes milwr, tirfeddiannwr a pherchennog mwynglawdd plwm ac Elizabeth (née Bowen) ei wraig. Roedd Jane wraig Thomas Johnes AS, Hafod Uchtryd yn chwaer i'r tad a Thomas hefyd yn gefnder iddo.[2] Wedi cyfnod mewn ysgol elfennol yn Llanbedr Pont Steffan aeth i ysgol breswyl yng Nghaerfaddon ac yna i Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Pan oedd yn 15 mlwydd oed bu farw ei dad mewn tlodi, wedi yfed holl olud y teulu ac wedi gadael llwyth o ddyledion fel etifeddiaeth i'w mab. Roedd ei drafferthion ariannol yn creu anhawster i Johnes talu ffioedd ei brifysgol. Daeth yn fyfyriwr ym 1817, ond gymerodd naw mlynedd cyn iddo raddio BA ym 1826. Cafodd MA ym 1829.[3]
Galwyd Johnes i'r bar yn y Deml Ganol ym 1831 a dechreuodd deithio fel bargyfreithiwr ar gylchdaith de Cymru. Oherwydd sefyllfa ariannol teulu Dolaucothi roeddynt wedi syrthio allan efo teulu'r Hafod ac wedi colli pob cysylltiad. Wedi marwolaeth Thomas Johnes a Jane ei wraig cymerodd y Parch Samuel Johnes-Knight, brawd iau Thomas trugaredd ar ei gyfyrder tlawd. Roedd gan Johnes-Knight cysylltiadau cryf efo arweinwyr y llywodraeth a'r teulu brenhinol a chytunodd i ddefnyddio ei ddylanwad i geisio swydd lywodraethol i Johnes. Ym 1836 penodwyd Johnes yn gomisiynydd cynorthwyol o dan Ddeddf Cyfnewid y Degwm.[4] Cafodd swyddi tebyg gyda chomisiynau'r Morlys, Deiliadaeth, Cau Tiroedd a Gwallgofrwydd.
Ym 1847 fe'i penodwyd yn farnwr y llys sirol, adran Caerfyrddin,[5] yn Gofrestrydd llys Caerfyrddin ym 1851 ac yn gadeirydd Llys Sasiwn Sir Gaerfyrddin ym 1854.[6] Roedd hefyd yn Ynad Heddwch dros Siroedd Penfro, Caerfyrddin Morgannwg a Cheredigion. Trwy ei waith cyfreithiol llwyddodd i adfer ystâd Dolaucothi.[7]
Fel tirfeddiannwr a gŵr y gyfraith cafodd ei hun yng nghanol Helyntion Beca rhwng 1839 a 1843. Yn wahanol i nifer o'i gymdogion bu Johnes yn dirfeddiannwr goleuedig a wnaeth lawer i gadw ei ardal yn dawel yn ystod yr helyntion. Ysgrifennodd traethawd dwyieithog i'w dosbarthu i'w denantiaid Annerchiad at Drigolion Plwyf Conwil-Gaio,yn Swydd Gaerfyrddin, a'r Plwyfau Cymdogaethol. Yn y traethawd roedd yn atgoffa ei ddarllenwyr o ba mor ddidrugaredd gallai'r gyfraith bod trwy dorri teuluoedd wrth ddefnyddio alltudiaeth fel cosb. Anogodd y rhai oedd yn ddigon hen i gofio i ddweud wrth y bobl iau pa mor wael oedd cyflwr y ffyrdd cyn bod tollau yn cael eu codi i wella'u cyflwr. Eglurodd mai'r ffermwyr a'r trigolion yn talu am unrhyw ddifrod i dollbyrth a gatiau yn y pen draw trwy eu trethi.
Tu allan i'w gwaith fel barnwr a thirfeddiannwr roedd gan Johnes diddordeb mawr mewn hynafiaethau a daeareg. Bu'n cynorthwyo'r Athro Edward Forbes yn ei astudiaethau daearyddol yng Nghymru. Fel perchennog ystâd Dolaucothi oedd â chysylltiadau efo'r Rhufeiniaid bu'n gwneud astudiaethau archeolegol ar ei dir a chyflwynodd nifer o'r eitemau a ddarganfu i'r Amgueddfa Brydeinig.[8]
Roedd yn gefnogwr brwd o achos y Seiri Rhyddion, bu'n gwasanaethu fel Arch Meistr rhanbarth de orllewin Cymru o'r mudiad.
Ym 1822 priododd Johnes ag Elizabeth merch Y Parch John Edwardes o Ystâd Gileston yn sir Forgannwg. Ganwyd mab iddynt ym 1823 ond bu farw yn Ffrainc yn fuan wedyn wrth i'r teulu mynd ar daith gyfandirol. Bu iddynt hefyd ddwy ferch.[9]
Roedd gan Johnes bwtler o'r enw Henry Tremble oedd wedi ei wasanaethu am 17 mlynedd. Roedd y bwtler yn awyddus i ddod yn landlord a thenant ar dafarn y Dolaucothi Arms ym Mhumsaint, oedd yn eiddo i'r ystâd. Roedd Johnes dim yn credu byddai gwraig Tremble yn addas ar gyfer swydd meistres tafarn a gwrthododd y cais am y denantiaeth. Wedi gwylltio bod ei gais wedi ei wrthod saethodd ei feistr yn farw. Ceisiodd hefyd llofruddio chwaer Johnes, ond methodd ei ergyd i fod yn un farwol ond fe gafodd hi anafiadau difrifol. Llwyddodd Tremble i ffoi rhag yr heddlu ac fe gyflawnodd hunanladdiad ychydig wedyn.[10]
Rhoddwyd corff Johnes i orwedd yng Nghladdgell y teulu yn Eglwys Caeo.[11] Cafodd corff Tremble hefyd ei gladdu ym mynwent eglwys Caeo mewn dirgelwch yng nghanol y nos. Wedi i drigolion yr ardal clywed am hyn roeddynt wedi ffieiddio bod y llofrudd yn rhannu'r un tir sanctaidd a'r un a llofruddiwyd. Codwyd y corff o'r bedd a chafodd ei drosglwyddo i Landdulas, Sir Faesyfed i'w claddu. Doedd trigolion Llanddulas ddim eisio corff llofrudd ym mynwent eu heglwys chwaith, felly fe wnaethant ddychwelyd y corff i Gaeo. Cafodd y corff ei ail gladdu yng Nghaeo dan dir oedd heb ei gysegru.[12]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.