John Hume

From Wikipedia, the free encyclopedia

John Hume

Cyn-wleidydd o Ogledd Iwerddon fu yn arweinydd y blaid SDLP o 1970 hyd 1979 oedd John Hume (18 Ionawr 19373 Awst 2020)[1]. Ystyrir ef yn un o brif arweinyddion y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
John Hume
Thumb
Ganwyd18 Ionawr 1937 
Derry, y Deyrnas Unedig 
Bu farw3 Awst 2020 
Derry 
Dinasyddiaeth Gwyddel
Alma mater
  • St Columb's College 
Galwedigaethgwleidydd 
SwyddLeader of the Social Democratic and Labour Party, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, member of the 1973–74 Northern Ireland Assembly 
Plaid WleidyddolSDLP 
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Seán MacBride Peace Prize, Marchog-Cadlywydd Urdd Sant Grigor Fawr, Gandhi Peace Prize, Gwobr y Pedwar Rhyddid - Rhyddid Mynegiant, doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Rennes II, Gwobr Heddwch Hesse, Gwobr James Joyce, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Officier de la Légion d'honneur, honorary doctorate from the University of Nice-Sophia Antipolis, Ellis Island Medal of Honor 
Cau

Ganed ef yn Derry, ac aeth i Goleg Sant Padrig, Maynooth i hyfforddi i fod yn offeiriad Catholig. Ni chwblhaodd ei astudiaethau ar gyfer yr offeiriadaeth, ond cafodd radd M.A. gan y coleg, cyn mynd yn athro. Daeth yn ffigwr amlwg yn y mudiad hawliau sifil yn Derry yn niwedd y 1960au. Etholwyd ef i senedd Gogledd Iwerddon fel Cenedlaetholwr Annibynnol yn 1969.

Roedd yn un o sylfaenwyr plaid yr SDLP yn 1970, ac yn 1979 olynodd Gerry Fitt fel ei harweinydd. Bu'n rhan o drafodaethau gyda'r llywodraeth Brydeinig a Sinn Féin, y credir iddynt arwain at gytundeb rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon yn 1985, ac yna gadoediad yr IRA yn 1994.

Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a David Trimble o'r UUP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ymddeolodd fel arweinydd yr SDLP yn 2001, a chyhoeddodd ei ymddeoliad o wleidyddiaeth yn 2004.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.