cenhadwr ac athro ysgol From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd John Davies (11 Gorffennaf, 1772 – 19 Awst, 1855) yn athro a chenhadwr Cymreig.[1][2]
John Davies, Tahiti | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1772 Llanfihangel-yng-Ngwynfa |
Bu farw | 19 Awst 1855 Papara |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro ysgol, cenhadwr, gweinidog yr Efengyl |
Ymddengys i John Davies gael ei eni mewn bwthyn ar dir Dugwm Isaf, Meifod, Sir Drefaldwyn, yn blentyn i wehydd tlawd, ond symudodd y teulu yn ddiweddarach i Halfen Isaf ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Cafodd ond tri mis o addysg ffurfiol,[3] yn un o ysgolion teithiol Madam Bevan. Fe'i magwyd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, ac ymysg cyfeillion ei ieuenctid roedd John Thomas, Dolwar Fach, brawd Ann Thomas (Griffiths wedyn), a John Hughes, Pontrobert, y gweinidog a gofnododd emynau Ann.
Mynychai'r teulu seiat y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Wedi i Thomas Charles glywed bod John Davies yn aelod diwyd a defnyddiol o'r seiat gwahoddwyd ef i ddod yn athro[4] yn ei ysgolion ef ym 1797.[5] Bu Davies yn athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Machynlleth a Llanwyddelan.
Wedi clywed bod Cymdeithas Genhadol Llundain yn chwilio am weithwyr ar gyfer eu cenhadaeth yn Tahiti, gwirfoddolodd i fod yn un ohonynt. Gadawodd am yr ynys ym mis Mai 1800, gan gyrraedd yno 10 Gorffennaf 1801. Oherwydd rhyfeloedd ymhlith y brodorion yno, gorfodwyd ef a'i gyd-genhadon i adael Tahiti. Treuliodd y cyfnod rhwng 1808 a 1820 yn Port Jackson (Sydney) ac yn ynysoedd Huahine a Mo'orea, ond dychwelodd i Tahiti yn niwedd 1820 a threulio weddill ei oes yno, heb byth dychwelyd i Gymru.[6]
Yn ogystal â phregethu ymysg y brodorion a chynnal ysgolion, bu Davies yn gyfrifol am gyhoeddi sawl llyfr yn y Tahitïeg. Cyfieithodd nifer o lyfrau'r Testament Newydd ar gyfer y Beibl Tahitïeg (ond rhoddwyd y clod am y Beibl i gyd i Sais o'r enw Henry Nott).[7] Cyhoeddodd eiriadur a gramadeg Tahitïeg, a'i lyfr sillafu yn 1810 oedd y llyfr cyntaf i'w argraffu yn iaith Tahiti. Ysgrifennodd hefyd nifer o emynau Tahitïeg, rhai ohonynt yn gyfieithiadau o emynau Cymraeg.[6] Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o droi'r Dahitïeg yn iaith ysgrifenedig a gosod sylfeini ei llenyddiaeth ysgrifenedig, ac fe'i mawrygir yno hyd heddiw ar gyfrif hynny.
Cyhoeddwyd ei History of the Tahitian Mission, 1799-1830 ym 1962, ac mae'n ffynhonnell hanfodol ar gyfer astudio hanes y genhadaeth a hanes Tahiti yn y cyfnod hwnnw.
Gwelodd newidiadau mawr yn hanes cenhadaeth Cymdeithas Genhadol Llundain yn Tahiti tua diwedd ei fywyd. Bu rhyfel rhwng Ffrainc â Tahiti o 1844 i 1847. O ganlyniad daeth Tahiti a Tahuata yn diffynwledydd Ffrainc gan roi'r hawl i genhadu ynddynt i'r Eglwys Gatholig Rufeinig.[8] Gadawodd nifer o genhadon Cymdeithas Genhadol Llundain yr ynys yn sgil hynny, ond mynnodd John Davies aros yno.
Trwy gydol ei amser yn Tahiti ysgrifennai'n rheolaidd at John Hughes, Pontrobert, a chyhoeddwyd llawer o'r llythyrau yn y Drysorfa, cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd.[9] Yn y Gymraeg y gohebent nes i John Davies golli ei olwg yng nghanol y 1840au.
Bu Davies yn briod ddwywaith. Priododd ei wraig gyntaf yn 1810, ond bu hi farw yn 1812 yn sgil geni merch fach (a fu farw hefyd yr adeg honno). Priododd am yr ail waith yn 1824. Ni fu plant o'r ail briodas, ond llysferch o'r ail briodas honno fu'n gofalu amdano yn ei henaint.
Bu farw yn Papara, Tahiti yn 83 mlwydd oed a 55 mlynedd ar ôl iddo symud i'r ynys.[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.