Jane Addams
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures Americanaidd oedd Jane Addams (6 Medi 1860 - 21 Mai 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, athronydd, cymdeithasegydd, a ffeminist. Ystyrir hi fel y person a grisialodd y cysyniad o 'waith cymdeithasol', a bod angen i lywodraeth ofalu am rai pobl o fewn cymdeithas. Sefydlodd "Hull House" yn Chicago, cartref i'r digartref, yr enwocaf, efallai yn yr UDA; ac yn 1920 sefydlodd yr ACLU (American Civil Liberties Union).[1][2][3][4][5]
Jane Addams | |
---|---|
Ganwyd | Laura Jane Addams 6 Medi 1860 Cedarville |
Bu farw | 22 Mai 1935 o canser Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, athronydd, llenor, ymgyrchydd dros hawliau merched, hunangofiannydd, diwygiwr cymdeithasol, beirniad cymdeithasol, swffragét, ymgyrchydd heddwch, amddiffynnwr hawliau dynol, damcaniaethwr gwleidyddol, cymdeithasegydd |
Mudiad | heddychiaeth, sosialaeth, pleidlais i ferched, hawliau menywod |
Tad | John H. Addams |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Chicago, Hall of Fame Lesbiaid a Hoywon Chicago, Hall of Fame Americanwyr Mawr |
llofnod | |
Yn 1931, hi oedd y fenyw Americanaidd gyntaf i ennill Gwobr Heddwch Nobel. Mae hi'n cael ei chydnabod fwyfwy fel athronydd pragmataidd, ac fel yr "athronydd benywaidd cyhoeddus cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau".[6]
Fe'i ganed yn Cedarville, Illinois a bu farw o ganser yn Hull House; fe'i claddwyd yn Illinois.[7][8][9][10][11][12]
Yn yr "Oes Flaengar" (yr hyn a elwir yn "Progressive Era"), pan nododd llywyddion fel Theodore Roosevelt a Woodrow Wilson eu bod yn ddiwygwyr a gweithredwyr cymdeithasol, Addams oedd un o'r diwygwyr mwyaf blaenllaw. Helpodd America i fynd i'r afael â materion a oedd yn peri pryder i famau, fel anghenion plant, iechyd cyhoeddus lleol, a heddwch y byd. Yn ei thraethawd 'Defnyddio Menywod mewn Llywodraeth y Ddinas', (Utilization of Women in City Government) nododd Addams y cysylltiad rhwng gweithrediadau llywodraeth y wlad a'r aelwyd, gan fynnu fod cysylltiad rhang glanweithdra, carffosiaeth dinesig, addysg plant ayb a rôl y ferch, yn draddodiadol, yn y cartref. Felly, roedd y rhain yn faterion y byddai gan fenywod fwy o wybodaeth amdanynt na dynion, felly roedd menywod angen y bleidlais i leisio'u barn yn y ffordd orau.[13]
Pe bai menywod yn gyfrifol am lanhau eu cymunedau, dywedodd, a'u gwneud yn lleoedd gwell i fyw, yna roedd angen iddynt allu pleidleisio i wneud hynny'n effeithiol. Daeth Addams yn fodel i fenywod y dosbarth canol, a ddechreuodd ddilyn ei syniadau, gan wirfoddolodd i wella eu cymunedau.
Jane Addams oedd yr ieuengaf o wyth o blant a aned i deulu ffyniannus o ogledd Illinois, teulu a oedd yn wreiddiol o Loegr, ac a symudodd i Pennsylvania. Yn 1863, pan oedd Jane yn 2 oed, bu farw ei mam, Sarah Addams (g. Weber), tra'n feichiog gyda'i nawfed plentyn. Wedi hynny gofalwyd am Jane Addams gan ei chwiorydd hŷn yn bennaf. Pan oedd Addams yn wyth oed, roedd pedwar o'i brodyr a'i chwiorydd wedi marw: tri yn fabanod ac un yn 16 oed.[14][15]
Yn ystod ei hoes, bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd, Alpha Kappa Alpha, Cynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid, Cymdeithas Phi Beta Kappa a Phwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol. [16]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.