Newyddiadurwr, darlledwr ac awdur yw Jamie Owen (ganwyd 1967). Roedd yn un o brif gyflwynwyr BBC Wales Today rhwng 1994 a 2018.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Jamie Owen
GanwydMedi 1967 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cau

Cefndir

Ganwyd Owen yn Hwlffordd, Sir Benfro. Roedd ei dad, James Meyrick Owen, yn gyfreithiwr yn Noc Penfro ac roedd ei fam yn ymwelydd iechyd a bydwraig.[1] Mae'r teulu yn hanu o deuluoedd Meyrick ac Owen o Sir Benfro, lle mae dwy stryd wedi eu henwi ar eu hôl. Mae'r ffordd i orsaf fferi Doc Penfro wedi ei enwi er anrhydedd i dad Owen. Tad bedydd Owen yw Arglwydd Gorden Parry o Neyland.

Addysg

Addysgwyd Owen yn Ysgol Pennar, Doc Penfro; Coleg yr Iesu, Aberhonddu, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Caerdydd.

Gyrfa

Ymunodd Owen â'r BBC yn 1986 ac fe weithiodd ar BBC Radio 3, ac ymuno â BBC Radio 4 nes ymlaen fel darllenwr newyddion a chyhoeddwr. Daeth yn brif gyflwynydd ar brif raglen newyddion BBC Cymru, BBC Wales Today yn 1994, ac mae wedi cyflwyno sioe radio wythnosol yn y bore ar BBC Radio Wales. Ar hyn o bryd mae'n cyflwyno rhaglen sgwrsio ar ddydd Sul am ganol dydd ar BBC Radio Wales. Mae wedi cyflwyno ar Songs of Praise, BBC Breakfast News a'r Shipping Forecast ar BBC Radio 4 ac mae'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth y BBC World Service yn y Dwyrain Canol yn Jordan, Ramallah, Libya ac Yr Aifft.

Cyflwynodd ei rifyn olaf o BBC Wales Today ar 9 Ionawr 2018. Aeth ymlaen i ymuno â'r gwasanaeth newyddion o Dwrci, TRT World.[2] Gadawodd TRT yn 2019 gan ymuno â CGTN, sianel Tsieinaidd yn Llundain.[3]

Cyhoeddiadau

Mae Owen yn awdur ar bump llyfr:

  • "Magic Islands" – taith hwylio o gwmpas ynysoedd Cymru mewn Llong Ysgafn Môr Hafren 100 mlwydd oed
  • "Magic Harbours" – taith hwylio o gwmpas porthladdoedd Cymru
  • "Welsh Journeys" a "More Welsh Journeys" – teithiau o gwmpas tirlun Cymru cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer
  • "Around Wales by B-Roads and Byways"  cyhoeddwyd gan Ebury Press yn Llundain yw ei lyfr diweddaraf.

Mae ei dri llyfr cyntaf wedi eu ffilmio ar gyfer y BBC ac ar gael ar DVD.[4]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.