ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd a fu'n un o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru yn ei chyfnod cynnar oedd John Edward Jones, mwy adnabyddus fel J. E. Jones (10 Rhagfyr 1905 - 30 Mai 1970). Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid rhwng 1930 a 1962.
John Edward Jones | |
---|---|
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1905, 1905 |
Bu farw | 30 Mai 1970, 1970 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Ganed ef ym Melin y Wig yn yr hen Sir Feirionnydd. Bu farw ei dad cyn iddo fod yn flwydd oed. Aeth i Ysgol Ramadeg y Bala, 1918-24, yna i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle bu'n ysgrifennydd Undeb y Myfyrwyr. Roedd yn un o sylfaenwyr "Cymdeithas y tair G", un o'r sefydliadau a unodd i greu Plaid Cymru yn Awst 1925.
Wedi cyfnod yn Llundain, daeth yn ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Genedlaethol yn 1930, a threfnodd lawer o ymgyrchoedd yn y swydd yma. Rhoddodd y gorau i'r swydd oherwydd afiechyd yn 1962.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.