From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Jørgen Engebretsen Moe (22 Ebrill 1813 – 27 Mawrth 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.
Jørgen Engebretsen Moe | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1813 Hole Municipality |
Bu farw | 27 Mawrth 1882 Kristiansand |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | bardd, offeiriad, llenor, arbenigwr mewn llên gwerin, awdur plant, diwinydd, casglwr straeon, rhyddieithwr |
Swydd | Q115862466 |
Tad | Engebret Olsen Moe |
Plant | Moltke Moe, Ole Falk Moe, Védastine Aubert |
Gwobr/au | Cadlywydd Urdd Sant Olaf |
llofnod | |
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.
Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.
Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).
Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.
Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:
Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.