cyfansoddyn cemegol From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae isofflwran, sy’n cael ei werthu dan yr enw masnachol Forane ymysg eraill, yn anesthetig cyffredinol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₃H₂ClF₅O. Mae isofflwran yn gynhwysyn actif yn IsoSol, Isothesia, Isoflo, Fluriso, Terrell a Forane .
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 183.971 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₃h₂clf₅o |
Enw WHO | Isoflurane |
Clefydau i'w trin | Status asthmaticus, anhwylder niwrotig |
Yn cynnwys | fflworin, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae isofflwran bob amser yn cael ei weinyddu ar y cyd ag aer a / neu ocsigen pur. Yn aml, defnyddir ocsid nitraidd hefyd. Fe'i defnyddir fel rheol i gynnal cyflwr anesthesia cyffredinol sydd wedi cael ei ysgogi â chyffur arall, megis sodiwm thiopental neu propoffol.
Mae sgil effeithiau'n cynnwys curiad calon afreolaidd, lleihad yn yr ymdrech i anadlu (iselder resbiradol), a phwysedd gwaed isel.[2]
Mae sgil effeithiau difrifol yn cynnwys hyperthermia adwythig a lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer y sawl sydd â hanes (neu hanes teuluol) o hyperthermia. Nid yw'n glir a yw defnyddio yn ystod beichiogrwydd yn niweidiol i'r plentyn, ond mae ei ddefnydd ystod toriad Cesaraidd yn iawn.
Mae isofflwran wedi cael ei ddefnyddio ers 1979. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[3]
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Isofflwran, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.