From Wikipedia, the free encyclopedia
Defnyddir inswlin fel meddyginiaeth i drin lefelau uchel o siwgr yn y gwaed. Mae hyn yn cynnwys diabetes mellitus math 1, diabetes mellitus math 2, diabetes yn ystod beichiogrwydd, a chymhlethdodau o ganlyniad i diabetes, er enghraifft cetoacidosis diabetig a chyflyrau hyperglycemic hyperosmolaidd. Defnyddir ar y cyd â glwcos er mwyn trin lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed.[1] Fel arfer rhoddir inswlin ar ffurf chwistrelliad oddi tan y croen, gellir hefyd chwistrelli i mewn i wythïen neu gyhyr.[2]
Enghraifft o'r canlynol | therapi |
---|---|
Math | diabetes management |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymhlith ei sgil effeithau cyffredin y mae lefelau isel o siwgr yn y gwaed. Gall y feddyginiaeth hefyd arwain at boen neu newidiadau yn y croen ar safle'r chwistrelliad, lefelau isel o botasiwm yn y gwaed, ac ymatebiadau alergol. Gellir defnyddio'r cyffur yn ystod beichiogrwydd gan ei fod yn gymharol ddiogel i'r baban. Mae modd creu inswlin allan o bancreas moch neu wartheg. Gellir gwneud fersiynau dynol naill ai trwy addasu fersiynau moch neu drwy ddefnyddio technoleg ailgyfunol. Ceir tri phrif deip o inswlin; gweithredu byrdymor (fel inswlin cyffredin), gweithredu canolradd (fel inswlin NPH), a gweithredu tymor hirach (fel inswlin glargine).[3]
Defnyddiwyd inswlin fel meddyginiaeth am y tro cyntaf yng Nghanada ym 1922 gan Charles Best a Frederick Banting.[4] Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[5] Cost gyfanwerthol inswlin cyffredin yn y byd datblygol yw oddeutu $2.39 (doleri UDA) i $ 10.61 i bob 1,000 uned ryngwladol, a $ 2.23 i $ 10.35 i bob 1,000 uned ryngwladol o inswlin NPH.[6][7] Yn GIG y Deyrnas Unedig, y mae'r un swm o inswlin cyffredin neu NPH yn costio £7.48, tra bod 1,000 uned ryngwladol o glargine yn £30.68.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.