From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Inferno yn ffilm gyffrous Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ron Howard ac ysgrifennwyd gan David Koepp. Fe'i seiliwyd ar y nofel 2013 o'r un enw gan Dan Brown. Dilyna Inferno y ffilm Angels & Demons, gyda Tom Hanks yn ailgydio yn ei rôl fel Robert Langdon. Yn ogystal â Hanks, serenna Felicity Jones, Omar Sy, Sidse Babett Knudsen, Ben Foster, ac Irrfan Khan yn y ffilm. Dechreuodd ffilmio ar 27 Ebrill 2015 yn Fenis, yr Eidal a daeth i ben ar 21 Gorffennaf 2015. Rhyddheir y ffilm ar 28 Hydref 2016 mewn fformatau 3D a 2D.
Cyfarwyddwr | Ron Howard |
---|---|
Cynhyrchydd | Brian Grazer Michael De Luca Andrea Giannetti |
Ysgrifennwr | Sgript gan David Koepp Seiliwyd ar Inferno gan Dan Brown |
Serennu | Tom Hanks Felicity Jones Omar Sy Ben Foster Irrfan Khan Sidse Babett Knudsen |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer |
Sinematograffeg | Salvatore Totino |
Golygydd | Tom Elkins Dan Hanley |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Imagine Entertainment Skylark Productions |
Dyddiad rhyddhau | 28 Hydref 2016 (Yr Unol Daleithiau) Dosbarthwyr Columbia Pictures |
Amser rhedeg | I'w gyhoeddi |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Dihuna Robert Langdon mewn ystafell ysbyty yn Fflorens, yr Eidal, heb unrhyw atgofion o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf. Daw yn amlwg ei fod, unwaith eto, yn darged mewn helfa ddynion. Ond gyda help Dr. Sienna Brooks, a'i wybodaeth o symboleg, ceisia Langdon adennill ei ryddid, a'i atgofion coll, wrth iddo ddatrys y dirgelwch mwyaf mae erioed wedi'i wynebu.[1]
Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Sony y rhyddheir y ffilm ar 18 Rhagfyr 2015,[5] ond oherwydd rhyddhad Star Wars: The Force Awakens, symudwyd y dyddiad yn ôl blwyddyn i 14 Hydref, 2016.[6] Fe'i symudwyd eto i 28 Hydref 2016.[7] Bydd y ffilm ar gael mewn fformatau 2D a 3D.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.