y broses pan fo'r corff dynol yn oeri'n sylweddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Hypothermia yw pan mae tymheredd y corff yn gostwng pan mae corff yn colli mwy o wres nag y mae'n ei dderbyn. Mewn bodau dynol, mae'n cael ei ddiffinio fel tymheredd craidd y croff sydd o dan 35.0 °C (95.0 °F). Mae symptomau yn dibynnu ar y tymheredd. Mewn hypothermia ysgafn ceir cryndod a phenbleth. Mewn hypothermia canolig mae'r crynu'n stopio a'r penbleth yn cynyddu. Mewn hypothermia dwys, gall fod dadwisgo paradocsaidd, ble mae'r person yn tynnu ei ddillad, a risg uwch o'r galon yn peidio a churo.[1]
Enghraifft o'r canlynol | clefyd, abnormally low value, arwydd meddygol, achos marwolaeth, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | symptom niwrolegol a ffisiolegol |
Y gwrthwyneb | gorwres |
Symptomau | Rhithweledigaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan hypothermia ddau brif achos. Mae'n digwydd gan amlaf pan fydd person wedi wynebu oerfel eithafol. Gall hefyd ddigwydd o ganlyniad i unrhyw gyflwr sy'n lleihau gallu'r corff i gynhyrchu gwres neu'n achosi cynnydd yn y gwres sy'n cael ei golli.[2] Yn aml mae hyn yn cynnwys meddwdod ond gall hefyd gynnwys lefel isel o siwgr yn y gwaed, anorexia, a henaint. Mae tymheredd y corff fel arfer yn aros ar lefel gyson o 36.5–37.5 °C (97.7–99.5 °F) trwy thermoreoleiddiad. Mae ymdrechion i gynyddu tymheredd y corff yn cynnwys crynu, cynnydd mewn gweithgaredd gwirfoddol, neu wisgo dillad mwy cynnes.[3] Gall hypothermia gael ei adnabod naill ai drwy symptomau'r person neu trwy fesur eu tymheredd craidd.
Mae triniaeth ar gyfer hypothermia ysgafn yn cynnwys diodydd cynnes, dillad cynnes, a gweithgaredd corfforol. I'r rhai sy'n dioddef o hypothermia canolig, mae blancedi gwresogi a hylifau mewnwythiennol sydd wedi'u cynhesu yn cael eu hargymell. Mae ailgynhesu fel arfer yn parhau hyd nes y bydd tymheredd y person dros 32 °C (90 °F).
Mae hypothermia yn achosi o leiaf 1,500 o farwolaethau y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau. Mae'n fwy cyffredin ymhlith henoed a gwrywod.[4] Un o'r lefelau tymheredd corff isaf ar gofnod ble mae rhywun gyda hypothermia damweiniol wedi goroesi yw 13.0 °C (55.4 °F) pan bu bron i ferch 7 oed yn Sweden foddi.[5] Mewn achosion eithafol, ceir disgrifiadau o bersonau yn goroesi wedi dros chwe awr o CPR. O'r rhai sydd angen ECMO neu ddargyfeirio, mae tua 50% yn goroesi. Mae marwolaethau o ganlyniad i hypothermia wedi bod yn rhan bwysig o nifer o ryfeloedd. Daw'r term o'r Groeg ὑπο, ypo, sy'n golygu "o dan", a θερμία, thermía, sy'n golygu "gwres". Y gwrthwyneb i hypothermia yw hyperthermia, cynnydd yn nhymheredd y corff o ganlyniad i fethiant thermoreoleiddiad.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.