Huw Llywelyn Davies

Darlledwr o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia

Darlledwr yw Huw Llywelyn Davies (ganed 19 Chwefror 1945). Yn fab i Eic Davies a oedd yn arloeswr wrth drafod chwaraeon yn Gymraeg ar y radio, fe anwyd Huw ym Merthyr Tudful.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Huw Llywelyn Davies
Ganwyd19 Chwefror 1945 
Merthyr Tudful 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd chwaraeon, cyflwynydd teledu 
TadEic Davies 
PlantRhodri Llywelyn 
llofnod
Thumb
Cau

Bywyd cynnar

Aeth i Ysgol Gynradd Gwaun-cae-gurwen, Ysgol Ramadeg Pontardawe, a Choleg y Brifysgol Caerdydd. Bu'n athro ac yn bennaeth yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Llanymddyfri o 1969 tan 1974.

Gyrfa

Ymunodd â HTV yn 1974 fel cyflwynydd ar raglen newyddion Y Dydd o dan arweiniad Gwilym Owen. Ymunodd â'r BBC yn 1979 gan gweithio i BBC Radio Cymru i ddechrau, yn cyflwyno rhaglen sgwrsio yn y boreau, rhaglenni i ddysgwyr a chyfresi gemau panel, cyn dechrau gweithio yn yr adran chwaraeon. Daeth yn enwog fel sylwebydd rygbi yn Gymraeg a Saesneg a hefyd yn gyflwynwr y rhaglen deledu Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Roedd hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu y BBC o'r Eisteddfod Genedlaethol.

Fe ymddeolodd fel sylwebydd ar gêmau rhyngwladol yn Mawrth 2014.[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.