Honddu Isaf

cymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia

Honddu Isaf

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Honddu Isaf. Saif o bobtu i'r ffordd B4520 rhwng Aberhonddu a Llanfair ym Muallt, a ger afon Honddu, ar Fynydd Epynt. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Capel Isaf, Castell Madog, Pwllgloyw, Sarnau, Garthbrengi a Llandefaelog Fach. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 395.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Honddu Isaf
Thumb
Mathcymuned 
Poblogaeth445, 432 
Daearyddiaeth
SirPowys 
Gwlad Cymru
Arwynebedd3,060.59 ha 
Cyfesurynnau52°N 3.394°W 
Cod SYGW04000282 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Thumb
Cau

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]

Hynafiaethau

Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys plasdy Castell Madog, a adeiladwyd yn 1588 ond ar safle sy'n mynd yn ôl i'r 11g.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Honddu Isaf (pob oed) (445)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Honddu Isaf) (58)
 
13.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Honddu Isaf) (267)
 
60%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Honddu Isaf) (43)
 
25.4%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.