From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Homo antecessor (gair Lladin sy'n golygu "rhagflaenydd dyn" neu'r "fforiwr cynnar") yn rhywogaeth o ddyn hynafol a ddifodwyd, ac a ganfuwyd yn Sierra de Atapuerca, Sbaen, safle archeolegol cynhyrchiol iawn, o olion 1.2 i 0.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y Pleistosen Cynnar. Mae'n bosibl bod poblogaethau o'r rhywogaeth hon yn bresennol mewn mannau eraill yng Ngorllewin Ewrop. Darganfuwyd y ffosilau cyntaf o'r rhywogaeth hon yn ogof Gran Dolina ym 1994, a disgrifiwyd y rhywogaeth yn ffurfiol ym 1997 fel hynafiad cyffredin olaf bodau dynol modern a Neanderthaliaid, gan ddisodli'r H. heidelbergensis.
Enghraifft o'r canlynol | ffosil (tacson) |
---|---|
Math | Hominini |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Homo, Homo erectus |
Dechreuwyd | Mileniwm 1200. CC |
Daeth i ben | Mileniwm 800. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er ei fod mor hynafol, mae'r wyneb yn arswydus o debyg i wynebau bodau dynol modern yn hytrach na bodau dynol hynafol eraill - wyneb fflat gydag asgwrn y boch yn grwm wrth iddo ymdoddi i'r ên uchaf - er mai dim ond o un sbesimen ifanc y daw'r wybodaeth hon. Gallai cyfaint yr ymennydd fod wedi bod yn 1,000 cc (61 cu mewn) neu fwy, ond nid oes unrhyw ymennydd cyflawn wedi'i ddarganfod. Er mwyn cymharu, cyfartaledd ymenydd bodau dynol heddiw yw 1,270 cm 3 i wrywod a 1,130 cm 3 ar gyfer menywod. Mae amcangyfrifon taldra yn amrywio o 162.3–186.8 cm (5 tr 4 modfedd—6 tr 2 fodfedd). Mae'n bosibl bod gan H. antecessor frest llydan a braidd yn drwm, yn debyg iawn i'r Neanderthaliaid, er bod y coesau'n hir ar gyfartaledd, nodwedd cyffredin mewn poblogaethau trofannol. Mae'r pen-gliniau yn denau ac mae ganddynt atodiadau tendon sydd wedi'u datblygu'n wael. Mae'r traed yn dangos bod cerddediad H. antecessor ychydig yn wahanoli fodau dynol modern.
Roedd H. antecessor wedi magu'r sgiliau i gynhyrchu offer cerrig mân a fflochiau syml o gwarts a chornfaen (chert) yn bennaf, er eu bod yn defnyddio llawer o ddeunyddiau eraill hefyd. Mae gan hyn rai tebygrwydd â diwydiant Acheulaidd mwy cymhleth, diwydiant sy'n nodweddiadol o safleoedd Affricanaidd cyfoes a safleoedd Ewropeaidd diweddarach. Efallai bod grwpiau wedi bod yn anfon partïon hela, a oedd yn targedu ceirw'n bennaf yn eu amgylchedd safana a choetir cymysg. Canibaleiddiwyd llawer o esgyrn H. antecessor. Nid oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn defnyddio tân, ac yn yr un modd dim ond yn Iberia fewndirol y buont yn byw yn ystod cyfnodau cynnes, gan gilio i'r arfordir fyn y gaeaf.
Gwyddys ers tro bod y Sierra de Atapuerca yng ngogledd Sbaen yn doreithiog iawn o ffosiliau. Archwiliwyd y Gran Dolina ("y llyncdwll mawr") am ffosilau gyntaf gan yr archeolegydd Francisco Jordá Cerdá ar daith maes fer i'r rhanbarth yn 1966, lle darganfuodd ychydig o ffosilau anifeiliaid ac offer carreg. Nid oedd ganddo'r adnoddau a'r gweithlu i barhau ymhellach gyda'i waith. Ym 1976, ymchwiliodd y paleontolegydd o Sbaen, Trinidad Torres, yn y Gran Dolina am ffosilau eirth (darganfuwyd gweddillion Ursus), ond fe'i cynghorwyd gan Dîm Ogofeg Edelweiss i barhau yn y Sima de los Huesos ("pwll esgyrn") gerllaw. Yma, yn ogystal â chyfoeth o ffosilau eirth,cafodd hyd i ffosiliau dynol hynafol, a ysgogodd archwiliad enfawr o'r Sierra de Atapuerca, dan arweiniad y palaeontolegydd Sbaenaidd Emiliano Aguirre i ddechrau ond a gymerwyd drosodd y gwaith gan José María Bermúdez de Castro, Eudald Carbonell, a Juan Luis Arsuaga. Ailddechreuwyd cloddio yn y Gran Dolina ym 1992, a daethant o hyd i weddillion dynol hynafol ddwy flynedd yn ddiweddarach, a ddisgrifiwyd yn ffurfiol ganddynt ym 1997 fel rhywogaeth newydd, Homo antecessor.[1] Sbesimen ATD6-5 yw'r holoteip, darn mandibwlaidd o'r ochr dde sygyda childdannedd a dannedd eraill yma ac acw. Yn eu disgrifiad gwreiddiol roedd Castro a'i gydweithwyr yn dadlau mai'r rhywogaeth hon oedd y bod dynol cyntaf i wladychu Ewrop, a dyna pam yr enwwyd y rhywogaeth yn antercessor sy'n dod o'r Lladin am "fforiwr", "arloeswr", neu "ymsefydlwr cynnar").[2]
Yn 2007 darganfuwyd darn o ên, ATE9-1, a neilltuwyd dros dro i H. antecessor gan Carbonell, o Sima del Elefante ("y pwll eliffant") gerllaw, a berthynai i unigolyn 20–25 oed. Daeth naddion carreg hefyd i'r fei a thystiolaeth o gigyddiaeth.[3] Yn 2011, ar ôl darparu dadansoddiad llawer manylach o gynnwys Sima del Elefante, roedd Castro a'i gydweithwyr yn ansicr o ddosbarthiad y rhywogaeth, gan ddewis ei adael yn Homo sp. (dim barn ar ddynodiad rhywogaeth) tra'n disgwyl darganfyddiadau pellach.[4]
Mae'r casgliad offer carreg yn y Gran Dolina yn eitha tebyg i nifer o rai eraill ar draws Gorllewin Ewrop, a all fod gan yr un rhywogaeth, er nad yw hyn yn wedi'i gadarnhau oherwydd na chanfuwyd ffosiliau dynol yn y safleoedd hyn.[2] Yn 2014 darganfuwyd hanner cant o olion traed yn dyddio rhwng 1.2 miliwn ac 800,000 o flynyddoedd yn ôl yn Happisburgh, Lloegr, y gellid o bosibl eu priodoli i'r grŵp H. antecessor o ystyried mai dyma'r unig rywogaeth ddynol a nodwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yng Ngorllewin Ewrop.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.