From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr Ymerawdwr Shōwa (昭和天皇 Shōwa Tennō) (29 Ebrill 1901 – 7 Ionawr 1989) oedd 124fed ymerawdwr Japan. Fe deyrnasodd rhwng 25 Rhagfyr 1926, hyd ei farwolaeth yn 1989. Adnabyddir ef oddi allan i Japan gan yr enw Hirohito (裕仁), sef "benthyciadau gorfodol, niferus". Rhoddwyd yr enw Ymerawdwr Shōwa iddo ar ôl iddo farw a gelwir yr amser pan deyrnasodd y Cyfnod Shôwa (昭和時代 Cyfnod Hedd Goleuedig) yn Siapan. Fe oedd yn rheoli Siapan drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ei deyrnasiad oedd yr un mwyaf hir o bob ymerawdwr. Ei fab hynaf, a'r ymerawdwr heddiw, yw Akihito.
Hirohito | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ebrill 1901 Akasaka Estate |
Bu farw | 7 Ionawr 1989 o duodenum adenocarcinoma Fukiage Gyoen |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol, diplomydd, botanegydd morol, swolegydd, teyrn, pendefig |
Swydd | Ymerawdwr Japan, Governor-General of the Philippines |
Adnabyddus am | Hirohito surrender broadcast |
Taldra | 1.65 metr |
Tad | Ymerawdwr Taishō |
Mam | Yr Ymerodres Teimei |
Priod | Kōjun |
Plant | Shigeko Higashikuni, Sachiko, Princess Hisa, Kazuko Takatsukasa, Atsuko Ikeda, Akihito, Ymerawdwr Japan, Masahito, Prince Hitachi, Takako Shimazu |
Llinach | Llys Ymerodrol Japan |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd yr Eryr Gwyn, Prif Ruban Urdd y Blodau Paulownia, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Urdd Sant Andreas, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Order of the Golden Kite, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd y Gardas, Urdd Coron Brwnei, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd yr Eliffant, Urdd Ojaswi Rajanya, Order of the Orchid Blossom, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Urdd Sikatuna, Urdd y Trysor Sanctaidd, Urdd y Baddon, Urdd Frenhinol Fictoraidd, Urdd Croes y De, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Coler Urdd Siarl III, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd Japan yn un o bwerau mawr y byd: y 9fed ar ôl yr Eidal o ran economi a'r trydydd o ran llynges arfog. Roedd hefyd yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd.[1] Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd mo'i erlyn am droseddau rhyfel. Ceir llawer o ddadlau am ei ran ym mhenderfyniadau milwrol ei wlad, ac osgodd farwolaeth ar ddiwedd y rhyfel.[2] Wedi'r rhyfel daeth yn symbol o'r wlad newydd ac erbyn diwedd ei deyrnasiad, roedd Japan yn ail economi mwyaf y byd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.