Henry Allingham
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Peiriannydd o Sais a wasanaethodd yn Llynges Lloegr a'r Awyrlu Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y Peiriannydd Awyr[1] Henry William Allingham (6 Mehefin 1896 – 18 Gorffennaf 2009). Ef oedd goroeswr olaf Brwydr Jutland ac yn un o'r goroeswyr olaf a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Mawrth 2009 daeth yn y dyn hynaf erioed o'r Deyrnas Unedig, gan fyw'n hirach na'r Cymro John Evans,[2] ac roedd yn ddyn byw hynaf y byd o 19 Mehefin 2009 hyd ei farwolaeth mis yn hwyrach.[3]
Henry Allingham | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1896 Llundain |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2009 o heneidd-dra Brighton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | person milwrol, hunangofiannydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Medal Rhyfel Prydain, Medal Buddugoliaeth, Medal Victoria |
Cafodd ei eni yn Clapton, Hackney, Llundain. Priododd Dorothy Cater (1895–1970) ym 1918 a chafodd ddwy ferch. Bu farw yn Ovingdean, Dwyrain Sussex.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.