Helen McCrory
actores a aned yn 1968 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores o Loegr oedd Helen Elizabeth McCrory OBE (17 Awst 1968 [1][2] – 16 Ebrill 2021)[3]
Roedd McCrory yn fwyaf adnabyddus am ei roliau ffilm fel Cherie Blair yn The Queen (2006) a The Special Relationship (2010), fel Narcissa Malfoy yn y tair ffilm "Harry Potter" olaf, fel Clair Dowar yn ffilm James Bond Skyfall (2012). Roedd hi'n enwog hefyd am ei rol fel Polly Grey yn y gyfres deledu BBC Peaky Blinders (2013–2019).
Cafodd McCrory ei geni yn Paddington, Llundain, yn ferch y Cymraes Ann (née Morgans), a'r diplomydd Albanaidd Iain McCrory. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Queenswood. Priododd yr actor Damian Lewis yn 2007.[4]
Bu farw McCrory o ganser y fron, yn 52 oed.[5]
Ffilmiau
- Interview with the Vampire (1994)
- Charlotte Gray (2001)
- Casanova (2005)
- Becoming Jane (2007)
- Harry Potter and the Half-Blood Prince (2009)
- Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 (2010)
- Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 2 (2011)
- Bill (2015), fel Elisabeth I, brenhines Lloegr
- Their Finest (2016)
Teledu
- The Fragile Heart (1996)
- Anna Karenina (2000), fel Anna
- In a Land of Plenty (2001)
- Charles II: The Power and The Passion (2003)
- Frankenstein (2007)
- Doctor Who (2010)
- We'll Take Manhattan (2012)
- His Dark Materials (2019)
- Roadkill (2020), fel y Prif Weinidog
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.