Awdur Cymraeg a ennillodd y Fedal Ryddiaith yn 1978 From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur Cymraeg a enillodd y Fedal Ryddiaith ym 1978 oedd Harri Williams (1913 – 1983).
Fe'i ganed yn Anfield, Lerpwl. Roedd yn faban pan gollwyd ei dad, y Capten Richard Williams, ar y môr yn Half Assini, Ghana. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Anfield Road yna Ysgol Llanallgo wedi symud i Farian Glas, Ynys Mon i fyw gyda'i nain. Wedi dychwelyd i Lerpwl parhaodd gyda'i addysg yn y 'Collegiate School'. Gadawodd yr ysgol ym 1929 a mynd i weithio fel clerc yn swyddfa Silcocks yn ardal y dociau. Yn 1934 fe'i derbyniwyd i Goleg Santes Catherine Rhydychen i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth. Oddi yno aeth i Goleg y Bala i ddilyn y cwrs bugeiliol.
Bu'n weinidog yn Nhywyn, Meirionnydd o 1939 nes 1948. Yn y cyfnod hwn treuliodd ddwy flynedd yn ysbytai Machynlleth a Thalgarth yn dioddef o'r diciau a ffrwyth ei brofiad yno yw ei gyfrol Ward 8 a ddaeth yn agos at gipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli, 1962. Ym 1948 symudodd i fod yn weinidog yn Waunfawr, Sir Gaernarfon cyn symud i ofalu am y Tabernacl a Hirael Bangor ym 1955. Bu hefyd yn gofalu am yr adran fugeiliol yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.[1]
Magodd ddiddordeb mewn gwylio adar am gyfnod gan gadw dyddiadur adarydda am y flwyddyn 1958. Ysgrifennodd yn helaeth ac yn ddiddorol am y broses o ddysgu.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.