Harri Pritchard Jones

Llenor Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia

Harri Pritchard Jones

Pabydd selog ac awdur o Gymru oedd Harri Pritchard Jones (10 Mawrth 1933 - 10 Mawrth 2015), a alwyd hefyd yn 'Harri Pi-Je' gan ei gyfeillion. Fe'i ganwyd yn Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr cyn symud i Ynys Môn. Bu'n weithgar iawn gyda phrotestiadau cynharaf Cymdeithas yr Iaith ym Mangor yn y 1960au.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Harri Pritchard Jones
Ganwyd3 Hydref 1933 
Dudley 
Bu farw10 Mawrth 2015 
Penarth 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, nofelydd, seiciatrydd 
PlantGuto Harri 
Cau
Thumb
Ar dde'r llun: 'Harri Pi-Je' fel y'i gelwid, un o drefnwyr Protest Cymdeithas yr Iaith i Gymreigio Prifysgol Bangor, Hydref 1963

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, Iwerddon ac yno y daeth i gysylltiad a'r ffydd Gatholig.[1] Dychwelodd i Gymru i fagu teulu a bu'n seiciatrydd yn Ysbyty Meddwl Hensol ger Caerdydd. Roedd yn briod a Lenna a roedd ganddo ddau fab, y newyddiadurwr Guto Harri, Illtud a merch Nia. Roedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ar ddiwedd ei fywyd roedd wedi dioddef o gancr a bu farw yn Hospis Marie Curie, Penarth yn 81 oed.[2][3]

Gyrfa feddygol

Yn ôl ei fab Guto, trodd ei dad at feddygaeth oherwydd dylanwad ei dad yntau sef William Alfred Pritchard Jones, athro o Borthaethwy a orfodwyd i ymuno â byddin Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel aelod o'r uned ambiwlans. Yn dyst i gyflafan y Somme, roedd yn aelod o Royal Army Medical Corps. Er mai ffuglen y gelwir y nofel Darnau’n disgyn i’w lle (neu Disgyn i'w Lle) cred Guto mai sôn am ei dad oedd Harri mewn gwirionedd.[4] Dylanwad mawr arall arno oedd Tynged yr Iaith a'i hawdur Saunders Lewis.

Llenor

Mae'n awdur pymtheg o lyfrau, gyda rhai o'r rheiny wedi eu cyfieithu i saith o ieithoedd.[5] Bu'n Gadeirydd 'Yr Academi Gymreig' fel y'i gelwid; Llenyddiaeth Cymru, bellach. Roedd hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Gwnaeth rai addasiadau ar gyfer y teledu gan gynnwys addasiad o Brad gan Saunders Lewis ar gyfer S4C.

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

Cyfrannodd yn sylweddol i’r broses o sefydlu presenoldeb i lenyddiaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yn fwy diweddar bu Harri o gymorth mawr wrth greu’r sefydliad newydd, Llenyddiaeth Cymru, gan uno Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac Academi.[6]

Llyfryddiaeth

Golygydd

  • Goreuon storiau Kate Roberts, wedi'u dethol, ynghyd â rhagymadrodd gan Harri Pritchard Jones (Dinbych: Gwasg Gee, 1997)
  • Saunders Lewis: Letters to Margaret Gilcriest, gol. Mair Saunders Jones, Ned Thomas a Harri Pritchard Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993)
  • Murray Watts, Gŵr y gwyrthiau sgript, addasiad Cymraeg gan Harri Pritchard Jones (Caerdydd: S4C, 1999)
  • Storïau'r dydd, wedi'u dethol a'u golygu gan Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes; rhagymadrodd gan Harri Pritchard Jones (Llandysul: Gwasg Gomer, 1968)
Thumb
Teitl y ffilm Sigaret? (1991)

Addasiadau ffilm

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.