From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell rudd (Lladin: Sympetrum sanguineum; lluosog: gweyll rudd). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae'r Gwäell rudd i'w ganfod yn Ewrop ac yng ngwledydd Prydain.
Sympetrum sanguineum | |
---|---|
Gwryw | |
Benyw | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Libellulidae |
Genws: | Sympetrum |
Rhywogaeth: | S. sanguineum |
Enw deuenwol | |
Sympetrum sanguineum (Müller, 1764) | |
Mae hyd ei adenydd yn 6 cm ac mae i'w weld yn hedfan rhwng Gorffennaf a Thachwedd ger llwyni coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Coch llachar yw lliw thoracs ac abdomen y gwryw, mae'r fenyw ychydig yn llai o ran maint ac yn felyn gyda marciau du arni.
Yn wahanol i'r Sympetrum striolatum a'r Sympetrum vulgatum sydd a streips ar eu coesau, mae coesau'r Gwäell rudd (neu'r S. sanguineum fel y caiff ei galw gan naturiaethwyr) yn hollol ddu.
Maent yn paru wrth hedfan uwch wyneb y dŵr ac mae'r fenyw, ymhen ychydig wedyn, yn dodwy ei hwyau i'r dŵr, gyda symudiadau ei habdomen i'w gweld yn amlwg. Tra bo hi'n gollwng ei llwyth, mae'r gwryw yn ei gwarchod gerllaw, er mwyn ei hamddiffyn rhag y gweision neidr gwrywaidd eraill. Mae'r larfa'n treulio blwyddyn yn y dŵr cyn dod i'r lan yn oedolyn llawn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.