From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn bwâu Kew, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod bwâu Kew; yr enw Saesneg yw Kew Arches neu Lily Borer neu Crinum borer, a'r enw gwyddonol yw Brithys crini.[1]
Brithys crini | |
---|---|
Siani flewog yn gwneud twll mewn deilen Pancratium maritimum | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Brithys |
Rhywogaeth: | B. crini |
Enw deuenwol | |
Brithys crini Fabricius, 1775 | |
Cyfystyron | |
|
Fe'i gwelir yng ngwledydd y môr canoldir, de Affrica, Japan a rhannau o Awstralia.
Mae adenydd yr oedolyn (ar ei eithaf) tua 40 mm: yr un maint a'r siani flewog, sy'n wenwynig.
Cofnodwyd y canlynol yn fwyd i'r siani flewog: Crinum, Clivia a Hippeastrum, gan gynnwys Crinum angustifolium a mathau o Haemanthus, Hippeastrum procerum, Pancratium maritimum, Zephyranthes candida, Crocus tommasinianus, Narcissus spp., ac Amaryllis belladonna.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn bwâu Kew yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.