Gweithgynhyrchu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y broses ddiwydiannol o gynhyrchu nwyddau o ddefnyddiau crai drwy lafur a pheiriannau yw gweithgynhyrchu. Gan amlaf digwyddir yn drefnus gyda rhaniad llafur, a gan wneir llawer o weithgynhyrchu mewn ffatrïoedd fe'i elwir hefyd yn ffatrïaeth.[1] Yn ôl diffiniad manylach, gweithgynhyrchu yw wneuthuro neu gydosod darnau cydrannol yn gynhyrchion gorffenedig ar raddfa eang.[2]
Cychwynnodd y broses weithgynhyrchu fodern yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, yn sgil dyfodiad rhaniad llafur, awtomateiddio a'r system ffatrïoedd. Datblygodd yn sylweddol yn y ddwy ganrif olynol, yn enwedig o ystyried masgynhyrchu a'r rhes gydosod.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.