(1306-1369) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Gruffydd Fychan II (c.1330–1369) yn arglwydd Glyndyfrdwy a Cynllaith Owain ac yn ddisgynnydd i dywysogion Powys Fadog. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru.
Gruffudd Fychan II | |
---|---|
Ganwyd | 1306 |
Bu farw | 1369 |
Tad | Gruffudd Fychan |
Mam | Elizabeth Le Strange |
Plant | Owain Glyn Dŵr, Lowri ferch Gruffudd Fychan, Tudur ap Gruffudd, Isabel ferch Gruffudd, Morfudd ferch Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Madog Fychan |
Mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch tad Gruffudd Fychan. Fel rheol, mae "Fychan" yn yr enw yn golygu mai Gruffudd oedd enw'r tad hefyd, ond mae rhai o'r achau yn awgrymu ei fod yn fab i Madog Crypl, a fu farw ym 1304. Fe allai Gruffudd Fychan II fod yn wyr i Madog Crypl, ac yn fab i Gruffudd ap Madog Crypl, a oedd yn chwech oed pan fu farw ei dad (a oedd eisoes yn briod).
Priododd Elen ferch Thomas ap Llywelyn, arglwydd yr hanner cwmwd Is Coed Uwch Hirwen a rhan o gwmwd Gwynionydd yng Ngheredigion.
Bu farw Gruffudd Fychan tua'r flwyddyn 1369. Fe'i claddwyd yn eglwys hynafol Llanasa (Sir y Fflint heddiw). Mae ei feddfaen cerfiedig yn goroesi: ceir arno y geiriau Lladin HIC LACET GRVFVD VACHAN ("Yma y gorwedd Gruffudd Fychan"). Yn ôl cofnodion yr eglwys, roedd y garreg hon yn gorwedd yng nghanol y côr deheuol ar un adeg. Mae lleoliad ei weddillion yn anhysbys heddiw.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.