From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Goronwy Foel (fl. tua chanol y 13g) yn fardd llys Cymraeg o'r Deheubarth.[1]
Goronwy Foel | |
---|---|
Ganwyd | Teyrnas Deheubarth |
Bu farw | 13 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 13 g |
Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglir o gerdd anghyflawn iawn a briodolir iddo yn Llawysgrif Hendregadredd.[1]
Yn y gerdd honno, sy'n rhiaingerdd gonfensiynol, mae Goronwy yn moli harddwch Marared ferch Rhys Fychan. Mae'n bosibl mai at un o'r ddwy ferch o'r enw Marared (Maryred, sef Marged) a gafodd Rhys Ieuanc ap Rhys Mechyll, un o dywysogion Deheubarth tua chanol y 13g ganrif. Mam y merched oedd Gwladus ferch Gruffudd ap Llywelyn ap Iorwerth (m. 1244) o Wynedd, wyres Llywelyn Fawr.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.