actores a aned yn 1924 From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd, actores, dylunydd ffasiwn a chymdeithasrwaig Americanaidd oedd Gloria Vanderbilt (20 Chwefror 1924 – 17 Mehefin 2019).[1][2][3][4][5][6][7][8]
Gloria Vanderbilt | |
---|---|
Ganwyd | Gloria Laura Vanderbilt 20 Chwefror 1924 Manhattan |
Bu farw | 17 Mehefin 2019 o canser y stumog Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, nofelydd, ysgrifennwr, hunangofiannydd, arlunydd, person busnes, cymdeithaswr, actor teledu, dylunydd ffasiwn, cynllunydd, dyddiadurwr |
Tad | Reginald Claypoole Vanderbilt |
Mam | Gloria Morgan Vanderbilt |
Priod | Pat DiCicco, Leopold Stokowski, Sidney Lumet, Wyatt Emory Cooper |
Plant | Leopold Stanislaus Stokowski, Christopher Stokowski, Carter Vanderbilt Cooper, Anderson Cooper |
Perthnasau | Gertrude Vanderbilt Whitney |
Llinach | Vanderbilt family |
Fe'i ganed yn Efrog Newydd ac roedd yn aelod o deulu cefnog Vanderbilt. Ei thad oedd Reginald Claypoole Vanderbilt a'i mam oedd Gloria Morgan Vanderbilt.Bu'n briod pedair gwaith, ysgarodd deirgwaith a cafodd pedwar mab.
Roedd ei phriodas hiraf gyda'r awdur Wyatt Emory Cooper. Cawsant ddau fab - yr hynaf oedd Carter Vanderbilt Cooper a laddodd ei hun yn 23 mlwydd oed. Y mab arall yw'r newyddiadurwr a darlledwr Anderson Cooper. Yn 2016 cynhyrchwyd rhaglen ddogfen ar HBO - Nothing Left Unsaid: Gloria Vanderbilt & Anderson Cooper lle'r oedd Vanderbilt yn edrych ar hanes ei bywyd gyda chymorth ei mab Anderson.[9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.