Gleidio
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gweithgaredd hamdden a chwaraeon cystadleuaeth rhyngwladol yw gleidio, efo peilotydd yn hedfan awyren heb beiriant. Sylweddolodd Syr George Cayley ym 1853 sut i wneud peiriant sy'n drymach na'r awyr hedfan. Datblygodd y Brodyr Wright ar hynny pan greon nhw yr awyren gyntaf wedi'i phweru gan injan.
Datblygodd Gleidio fel chwaraeon yn y 1920au – yn dechrau gyda hedfan am fwy o amser, ac wedyn i hedfan am fwy o bellder dros y wlad. Trwy wella dealltwriaeth o aerodynameg a'r tywydd, gellir hedfan pellach a chyflymach erbyn hyn. Mae hedfan am bellder hir iawn yn bosib trwy hedfan mewn awyr sy'n codi ac mae hedfan am fwy na 1,000 cilomedr yn bosib. Mae peilotydd yn gallu gweithio i ennill cymwysterau a bathodynnau i ddangos ei sgiliau.
Mae gleidio cystadleuol yn boblogaidd iawn hefyd efo llawer o gystadlaethau lleol a rhanbarthol ar draws y byd, gyda Cystadleuaeth y Byd bob yn ail flwyddyn.
Ceir sawl lle i hedfan yng Nghymru oherwydd mae llawer o gribau mynydd yn y wlad. Ceir pum cangen o'r Clwb Gleidio Prydeinig yn Talgarth, Cwm Nedd, Brynbuga, Dinbych a Llandegla sy'n croesawu'r cyhoedd i hedfan gyda nhw. Ceir dau Sqwadron Gleidio Cadetiaid Awyr; un yn Sain Tathan (ger Caerdydd) ac un arall ym Mhenryn Gŵyr (ger Abertawe).
Pwy | Lle | Gleider |
---|---|---|
634 VGS | Sain Tathan | Vigilant T1 |
636 VGS | Abertawe | Vigilant T1 |
Clwb Gleidio Cwm Nedd | Rhigos | ?? |
Clwb Gleidio De Cymru | Brynbuga | K13 Grob 103 Twin Astir K8 Grob G102 Astir |
Clwb Gleido Dinbych | Parc Lenewi | Venture |
Clwb Gleido Gogledd Cymru | Llandegla | ?? |
Clwb Gleidio Mynydd Du | Talgarth | K13 K21 K6 SZD-30 Pirat SZD-51 Junior |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.