Y Rhigos

pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia

Y Rhigos

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Rhigos.[1] Mae'n gorwedd yng ngogledd Cwm Cynon tua 7 milltir o Aberdâr, yn ymyl yr hen ffordd a gysylltai Aberdâr a Glyn Nedd cyn ymestyn yr A465.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Rhigos
Thumb
Mathpentref, cymuned 
Poblogaeth972 
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau51.7333°N 3.5667°W 
Cod SYGW04000701 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruVikki Howells (Llafur)
AS/au y DUBeth Winter (Llafur)
Thumb
Cau

Mae Glyn Nedd ddwy filltir i ffwrdd. Gorwedd Rhigos ar echel Cwm Cynon a Dyffryn Nedd, ac i'r gorllewin o'r pentref saif pentrefi bychain Cefn Rhigos a Chwm-hwnt.

Thumb
Neuadd Chwaraeon Gymunedol Rhigos

Mae gan y pentref glwb rygbi lleol sef CRU Rhigos, ysgol gynradd, siop fechan a dwy dafarn: "Yr Aradr" a'r "New Inn".

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Beth Winter (Llafur).[2][3]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Rhigos (pob oed) (894)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Rhigos) (135)
 
15.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Rhigos) (786)
 
87.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Rhigos) (170)
 
45%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.