Glamorgan Gazette
Papur newydd wythnosol ar gyfer ardal Bro Morgannwg gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Sefydlwyd yn 1894. From Wikipedia, the free encyclopedia
Papur newydd wythnosol ar gyfer ardal Bro Morgannwg gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Sefydlwyd yn 1894. From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Glamorgan Gazette yn bapur newydd wythnosol ar gyfer ardal Bro Morgannwg gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i sefydlwyd yn 1894 ac mae'n dal i gyhoeddi hyd heddiw. Perchennog y papur newydd yn 2011 oedd Media Wales Cyf. Teitlau cysylltiol y papur yw; Bridgend and Neath Chronicle and County of Glamorgan Advertiser (1888); a'r Central Glamorgan Gazette and General, Commercial and Agricultural Advertiser (1866).[1]
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd, Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1894 |
Rhanbarth | Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr |
Cyhoeddwyd ac argraffwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan John Evans yn 1894, gan Cwmni Cyfyngedig Argraffu a Chyhoeddi Canolbarth Morgannwg rhwng ca.1900 a ca.1951, gan Glamorgan Gazette Cyf rhwng ca.1951 a 1970, gan Celtic Press Cyf yn 1971, a gan Media Wales Cyf yn 2011.[2]
Mae rhifynau'r papur o'i sefydlu yn 1894 hyd at 1919 (614 rhifyn) wedi eu digido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein.
Ceir hefyd rhifynau wedi eu digido ar wefan British Newspaper Archive gan gynnwys y blynyddoedd canlynol (noder bod bylchau); 1894-1895, 1897-1898, 1900-1984, 1987-1993.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.