chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw Thomas Gerald Reames Davies (ganed 7 Chwefror 1945). Bu'n chwarae tros Gymru rhwng 1966 and 1978.
Gerald Davies | |
---|---|
Ganwyd | 7 Chwefror 1945 Llan-saint |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, newyddiadurwr |
Taldra | 174 centimetr |
Pwysau | 74 cilogram |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Loughborough Students RUFC, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Canolwr, Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef yn Llansaint, a'i addysgu yn Mhrifysgol Loughborough a Phrifysgol Caergrawnt
Bu'n chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi Cymry Llundain. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ar 3 Rhagfyr 1966, gêm a gollwyd 14 - 11. Enillodd 46 o gapiau dros Gymru i gyd, gan sgorio 20 cais. Roedd yn chwarae fel canolwr ar y dechrau, nes i'r hyfforddwr Clive Rowlands ei symud i'r asgell yn ystod taith i Awstralia a Seland Newydd yn 1969. Roedd yn aelod o'r tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1971, tîm a ystyrir gan lawer fel y tîm gorau fu'n cynrychioli Cymru erioed. Cofir er orau, efallai am ei gais ym munud olaf y gêm yn erbyn yr Alban y flwyddyn honno, pan oedd yr Alban ar y blaen.
Aeth ar daith gyda'r Llewod in 1968 a 1971, gan fod yn aelod o'r tîm enwog a enillodd y gyfres o gemau prawf yn erbyn y Crysau Duonac yn 1971 dan hyfforddiant Carwyn James, yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.
Wedi ymddeol o rygbi, bu'n gweithio fel newyddiadurwr, gan ysgrifennu i'r Times. Ym mis Tachwedd 2007, cyhoeddwyd mai ef fydd rheolwr y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2009.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.