From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyflwynydd teledu ac actor o Sais oedd Geoffrey Hayes (13 Mawrth 1942 – 30 Medi 2018)[1] Ei rôl mwyaf enwog oedd fel cyflwynydd y rhaglen deledu i blant Rainbow rhwng 1973 a 1992, yn dilyn y cyflwynydd gwreiddiol David Cook.[2] Cyn hynny, bu'n gweithio fel actor, gan gynnwys rôl ar ddrama heddlu Z-Cars (BBC1). Roedd gan Hayes gredydau ysgrifennu ar gyfer Rainbow[3] a The Great Pony Raid yn 1967.[4]
Geoffrey Hayes | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1942 Stockport |
Bu farw | 30 Medi 2018 o niwmonia |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, actor, actor teledu |
Adnabyddus am | Rainbow |
Wedi i Rainbow ddod i ben yn y 1990au roedd Hayes yn ei chael yn anodd i ddod o hyd i waith.[5] Cymerodd swydd stacio silffoedd yn ei siop Sainsbury's lleol am bedwar mis gan nad oedd wedi dod o hyd i swydd actio a roedd ei wraig eisiau iddo ennill incwm. Treuliodd rhywfaint o amser fel gyrrwr tacsi ac ymddeolodd beth amser yn ddiweddarach. Nododd y byddai wedi hoffi gwneud gwaith actio difrifol ar ôl Rainbow, ond roedd cyfarwyddwyr yn ei weld fel Geoffrey o Rainbow yn unig.[6] Serennodd mewn hysbyseb teledu doniol am fuddsoddi arian, yn gwneud hwyl am ei gwymp o'r brig.[7]
Yn 1996, ymddangosodd Hayes yn fideo'r gân "I'd Like To Teach the World to Sing" gan y band teyrnged Oasis, No Way Sis.[8] Roedd yn chwarae gyrrwr tacsi, yn union fel y gwnaeth Patrick Macnee yn fideo Oasis ar gyfer "Don't Look Back in Anger".[9] Ymddangosodd hefyd yn y fideo llawn enwogion ar gyfer y sengl elusennol "Is This the Way to Amarillo" gyda Tony Christie a Peter Kay.
Yn 2002, roedd yn banelydd gwadd ar bennod o Never Mind the Buzzcocks.[10]
Yn 2008, roedd Hayes yn rhan o ymgyrch Walkers Crisips ar gyfer Monster Munch. Amcan datganedig yr ymgyrch oedd dod o hyd i'r pypedau anghenfil coll o'r hysbysebion teledu gwreiddiol o'r 1980au ar gyfer y byrbryd poblogaidd. Yn y clip ffilm, mae'n sôn ei fod wedi clywed gan Bungle yn ddiweddar.[11]
Ar 12 Medi 2015, roedd yn gystadleuydd gwadd ar gwis Pointless Celebrities (BBC1) . Aeth i'r rownd derfynol ond ni chafodd ateb 'dibwynt'.[12][13]
Roedd Hayes yn gefnogwr o'r tîm pêl-droed Albanaidd Dundee Unedig, wedi byw yn y ddinas yn y 1960au. Dywedodd Hayes ei fod wedi gofyn i gynhyrchwyr Rainbow i wneud pyped Zipp yn lliw tanjerîn, i gyd-fynd â lliwiau Dundee United yn hytrach na lliw glas eu gelynion lleol Dundee.[14]
Bu farw Hayes o niwmonia ar 30 Medi 2018, yn 76 oed, gan adael ei wraig Sarah a mab Tom.[15][16]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.