Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Fforwm rhyngwladol ar gyfer llywodraethau'r Almaen, Canada, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, Japan, Rwsia, ac Unol Daleithiau America oedd yr G8 (Grŵp yr Wyth) a fodolai o 1997 i 2014. Sefydlwyd yn sgil ychwanegu Rwsia at yr G7, a daeth i ben pan gafodd Rwsia ei diarddel yn sgil cyfeddiannu'r Crimea ym Mawrth 2014. Ar un pryd, gyda'i gilydd roedd y gwledydd hyn yn cynrychioli tua 65% o economi'r byd.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol, group of major economic countries |
---|---|
Daeth i ben | 2014 |
Dechrau/Sefydlu | 1997 |
Yn cynnwys | 23rd G8 summit, 24th G8 summit, 25th G8 summit, 26th G8 summit, Uwchgynhadledd yr G8, 2001, 28th G8 summit, 29th G8 summit, 30th G8 summit, uwchgynhadledd yr G8, 32nd G8 summit, Щщ33rd G8 summit, 34th G8 summit, 35th G8 summit, 36th G8 summit, 37th G8 summit, 38th G8 summit, Uwchgynhadledd yr G8, 2013 |
Rhagflaenydd | G7 |
Olynydd | G7 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd gweithgareddau'r grŵp yn cynnwys cynadleddau trwy'r flwyddyn ac ymchwil polisi, sy'n diweddu gyda chynhadledd flynyddol rhwng penaethiaid llywodraethol yr aelodau-wladwriaethau. Cynrychiolwyd y Comisiwn Ewropeaidd yn y cynadleddau hefyd. Pob blwyddyn, byddai aelod-wladwriaethau'r G8 yn cymryd eu tro fel llywyddiaeth y grŵp. Byddai deiliad y llywyddiaeth yn gosod agenda flynyddol y grŵp ac yn cynnal cyfarfod y flwyddyn honno.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.