Frédéric Chopin

cyfansoddwr a aned yn 1810 From Wikipedia, the free encyclopedia

Frédéric Chopin

Frédéric François Chopin (1 Mawrth 181017 Hydref 1849) oedd un o'r cyfansoddwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol ar gyfer y piano. Fe'i anwyd yn Fryderyk Franciszek Chopin, ym mhentref Żelazowa Wola, ger Warsaw[1] yng Ngwlad Pwyl. Roedd ei dad yn Ffrancwr a oedd wedi ymsefydlu yn y wlad, a'i fam yn Bwyles. Yn Warszawa, fe adnabwyd dawn mentrus y Chopin ifanc wrth ganu'r piano a chyfansoddi. Yn 20 oed, fe adawodd am Baris (ni ddychwelodd i Wlad Pwyl byth eto). Ym Mharis, datblygodd yrfa fel perfformiwr, athro,[2] a chyfansoddwr, ac yno y mabwysiadodd ffurf Ffrangeg ei enw, "Frédéric-François". Ym 1836, cyfarfu â'r awdures Ffrengig George Sand. Cawsant berthynas dymhestlog a barhaodd hyd 1847. Pur wael oedd iechyd Chopin trwy lawer o'i fywyd, a gorfododd hyn iddo beidio â pherfformio'n aml yn y blynyddoed cyn ei farwolaeth.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Frédéric Chopin
Thumb
GanwydFryderyk Franciszek Chopin 
1 Mawrth 1810 
Żelazowa Wola 
Bu farw17 Hydref 1849 
o diciâu 
Paris 
Man preswylWarsaw, Fienna, Paris, Żelazowa Wola, Szafarnia, Masovian Voivodeship, Poturzyn, Duszniki-Zdrój, Berlin, Dresden, Kalisz, Wrocław, Toruń, Gdańsk, Poznań, Kraków, Llundain, Manceinion, Glasgow, Caeredin, Valldemossa Charterhouse, Valldemossa, Nohant-Vic 
DinasyddiaethFfrainc, Ymerodraeth Rwsia, Duchy of Warsaw, Gwlad Pwyl y Gyngres, yr Ail Weriniaeth Ffrengig 
Alma mater
  • Prifysgol cerddoriaeth Chopin
  • Uniwersytet Warszawski 
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, athro cerdd, meistr ar ei grefft, cerddor, addysgwr 
Adnabyddus amÉtudes, Polonaise in A-flat major "Heroic", Op. 53, Nocturnes, Ballades 
Prif ddylanwadJohann Sebastian Bach, Wolfgang Amadeus Mozart 
Mudiadcerddoriaeth ramantus 
TadNicolas Chopin 
MamTekla Justyna Chopin 
PartnerMaria Wodzińska, George Sand 
llofnod
Thumb
Cau

Cyfansoddiadau

Mae'r piano yn ymddangos ymhob un o weithiau Chopin. Mae'r rhan fwyaf ar gyfer piano unigol, ond cynnwys rhai ohonynt ail biano, ffidil, soddgrwth, llais neu gerddorfa.

Mae gan rhai o'i weithiau mawreddog megis y pedwar ballade, y pedwar scherzo, y barcarolle op. 60, y fantaisie op. 49, a'i sonatau le sefydlog yn y repertoire, yn ogystal â gweithiau byrrach. Dau gasgliad pwysig arall yw'r 24 Prelìwd Op. 28, a seiliwyd i ryw raddau ar Das Wohltemperirte Clavier Johann Sebastian Bach, a'r Études Op. 10 ac Op. 25.

Cyfansoddodd Chopin ddau o goncertos piano enwocaf y cyfnod rhamantaidd, (Opws 11 a 21). Yn ogystal, fe osododd lawer o ysgrifau Pwyleg, a rhywfaint o gerddoriaeth siambr.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.