diod coffi gyda llaeth twym ac espresso From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae flat white (Cymraeg: weithiau cyfieithir yn coffi gwyn fflat neu coffi melfed gwyn[1]) yn ddiod coffi sydd wedi ei seilio ar espresso ac yn amrywiad o'r cappuccino. Gan bod gan y ddiod wyneb esmwyth, cyson, mae'n aml wedi'i haddurno â phatrymau neu delweddau syml a elwir yn chelf latte.
Enghraifft o'r canlynol | diod |
---|---|
Math | diod coffi |
Gwlad | Awstralia, Seland Newydd |
Yn cynnwys | espresso, microfoam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bathwyd yr enw i yn Awstralia a Seland Newydd yn yr 1980au.[2] Ceir ymgipris rhwng y ddwy wlad dros ba un ddyfeisiodd y ddiod gyntaf. Mae cyfeiriad at "flat white coffee" yn y ffilm Brydeinig o 1962, Danger by My Side, er nad yw'n glir bod hyn yn cyfeirio at y ddiod fodern.[3] Ym mhennod 123 o opera sebon Awstralaidd, The Young Doctors mae cymeriad yn gofyn am "two flat white" yn y bwyty Bunny’s Place - wedi’i osod yn Sydney, ffilmiwy /darlledwyd hwn ym 1976/1977. Mae'r cyfeiriadau cynharaf wedi'u dogfennu at y diod modern yn dyddio'n ôl i Awstralia yng nghanol yr 1980au. Cyfeiriodd adolygiad o gaffi yn Sydney, 'Miller's Treat' ym mis Mai 1983 at eu "flat white coffee".[4]
Hawliau Seland Newydd] mai yno y datblygwyd y ddiod.[5][6] Lleoliad hawl y wlad i'r ddiod yw diod yw caffe yn ninas Auckland, lle hawliau Derek Townsend a Darrell Ahlers o Cafe DKD, iddo fod yn eilydd ddiod i'r Caffè latte,[7] ac mae ail hawliad i'r ddiod ddod o ddinas Wellington fel enghraiff o "failed cappuccino" yn 'Bar Bodega' ar Willis St yn 1989.[5]
Yn draddodiadol mae'r ddiod yn cael ei gweini mewn mwg ceramig bach 150-160 ml. Defnyddir microfoam: mae'r ewyn llaeth o ben y cynhwysydd stemio yn cael ei daflu neu ei gadw yn y cynhwysydd tra bod y llaeth hufennog o waelod y cynhwysydd yn cael ei dywallt i'r coffi, gan roi'r gwead llyfn nodweddiadol hwnnw.[8] Yn draddodiadol mae gwyn gwastad yn ymgorffori celf latte (darluniau o ddail neu galon ar ewin y coffi).
Dywedodd un sylwebydd, Felipe Cisneros perchennog, Traviesa Coffee in Quito, Ecuador bod y "Caffè latte yw gwerthwr gorau diod espresso yn siopau coffi ail don; Flat White, gwerthwr diod espresso gorau yn y siopau trydydd don" o ffasiwn neu ddatblygiad yfed coffis espresso yn fyd-eang.[9]
Gweinir y Coffi Melfed mewn cwpan cappuccino ac mae'n cynnwys ristretto doppio a llaeth ffrio wedi'i falu'n fân. Tra bod llawer o aer yn cael ei ychwanegu at y llaeth ar gyfer paratoi cappuccino pan fydd yn cael ei gynhesu ("llaeth awyredig iawn" [10]), dim ond gyda Flat White ("llaeth wedi ei awyru cyn lleied â phosibl" y mae'r llaeth yn cael ei ledaenu.[10] ), fel bod cysondeb y llaeth bron yn runny. Yn ogystal, dim ond haen denau iawn o ewyn sydd gan wyn gwastad a dim "cap ewyn llaeth" fel y gwelir yn aml ar gappuccino.[10][11]
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwyn gwastad hefyd wedi lledu yn Ewrop. Er enghraifft, mae'r ddiod yn cael ei chynrychioli mewn tua 100 o gaffis Llundain, ac ers 2010 mae hefyd wedi bod ar y fwydlen yng nghanghennau cadwyni siopau coffi Starbucks a Costa Coffee ym Mhrydain Fawr.[12] Mae'r ddiod hefyd yn dod yn fwyfwy eang ym mhrif ddinasoedd yr Almaen.[11] Yn 2018, lansiodd Nescafé yr amrywiaeth Flat White ar gyfer system Dolce Gusto am y tro cyntaf, ac mae Jacobs Douwe Egberts hefyd wedi bod yn gwerthu’r amrywiaeth Flat White ar gyfer system Tassimo ers 2019.
Ceid awgrym am enw Cymraeg i'r Flat White, sef, Coffi Melfed Gwyn,[13] sydd yn cydfynd â sawl disgrifiad yn y Saesneg o wead a natur yr ewin llaeth a ychwanegir at yr espresso yn y ddiod.[14]
Cafwyd ymateb fawr i drydaria yn 2021 oedd yn cynnwys ffoto o ddiodlen mewn caffe Gymreig gydag enwau Cymraeg am wahanol fathau o ddiodydd coffi. Yn eu mysg oedd cynnig am enw Cymraeg i'r Flat White, sef, "Coffi cryf drwy lefrith" sy'n fwy o ddisgrifiad nag enw.[15]
Cymaint yw apêl Coffi Melfed fel y defnyddir fel abwyd i ddenu ymwelwyr i Gymru gan Croeso Cymru efallai gyda'r awgrym bod y Flat White yn ddiod dinesig a soffistigedig er mwyn creu delwedd mwy gyfoes o Gymru i ymwelwyr postib i'r wlad. Gwelwyd dudalen ar wefan Croeso Cymru gyda'r pennawd, "Where to drink coffee in Cardiff" ac yna is-bennawd, "Find the perfect flat white Cardiff loves coffee, a fact that’s celebrated in Wales’ capital with a growing number of independent, homegrown coffee shops and roasteries." [16] Ceir hefyd brolio gan gwmnïau rhostio a macsi coffi Cymreig ei bod yn gallu rhagori ar greu Flat White da, er enghraifft cadwyn caffes Coffi Co a ddechreuodd yng Nghaerdydd [17] a Coaltown Coffee o Rydaman.[18]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.